Y Croeso Mawr Wythnos 2020

16-25 Medi


 

Croeso cynnes iawn i bob myfyriwr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd oddi wrthon ni i gyd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol!

Heddiw (dydd Mercher 16 Medi) yw dechrau swyddogol Y Croeso Mawr a’r Wythnos Ymgartrefu Prifysgol Aberystwyth. Mae llawer o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyngor ar gael gan yr Adran, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Yn ogystal, mae'r Adran yn cynnal sesiynau cyn-gofrestru a chynghori academaidd yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Gwiriwch eich e-bost a thudalennau Blackboard am amseroedd y gwahanol sesiynau.

Gallwch ddod o hyd i beth sy'n digwydd ledled y Brifysgol ar dudalennau gwe Y Croeso Mawr Prifysgol Aberystwyth. Gallwch hefyd lawrlwytho Llyfryn PDF y Brifysgol Croeso i Aberystwyth.

Date: Mer, 16 Med 2020 10:58:00 BST