Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol

Mae’r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ehangu eu gorwelion academaidd a chymdeithasol trwy dreulio rhan o’u profiad prifysgol dramor. Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau dramor sy’n berthnasol i’w cynlluniau gradd a bydd y marciau’n cyfrif tuag at eu gradd. Bydd myfyrwyr ar y Cynllun hwn yn mynd am gyfnod cyfnewid o un semester yn ystod eu hail flwyddyn, ond bydd myfyrwyr sy’n astudio am radd gyfun gydag Astudiaethau Ewropeaidd neu iaith Ewropeaidd, yn treulio blwyddyn gyfan dramor.

Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda phrifysgolion dethol yn Ewrop, Awstralia a Chanada. O fewn Ewrop, ceir cyfleoedd i fynd am gyfnod i Brifysgol Darmstadt (yr Almaen); Prifysgol Gwlad y Basg (Bilbao, Sbaen); Université Robert Schuman (Strasbourg, Ffrainc); Prifysgol Tampere (y Ffindir); a Phrifysgol Wroclaw (Gwlad Pwyl).  Bydd myfyrwyr sy’n ymweld â phrifysgolion Ewropeaidd yn derbyn cefnogaeth ariannol drwy’r cynllun ERASMUS, a gwersi iaith yn rhad ac am ddim yn y brifysgol dramor.

Y tu hwnt i Ewrop, mae gan yr Adran gysylltiadau â Phrifysgol McGill (Montreal, Canada); Prifysgol Victoria (Victoria, Canada); a Phrifysgol Griffith (Brisbane, Awstralia). Mae’r lleoliadau hyn, yn ogystal â’r rhai yn Ewrop, yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau academaidd a sgiliau bywyd, cyfle na cheir ei debyg.