Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r Adran wedi buddsoddi’n helaeth dros y blynddoedd yn ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg arloesol ac wedi’i chydnabod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel prif ddarparwr y pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymrwymiad yr Adran yw i sicrhau bod modd i fyfyrwyr astudio o leiaf 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ymarferol, golyga hyn bod modd astudio pedwar allan o’r chwech modiwl y disgwylir i fyfyrwyr eu hastudio bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Adran hefyd yn sicrhau bod pob myfyriwr sy’n siarad Cymraeg yn derbyn tiwtor personol a thiwtor traethawd hir sy’n medru siarad yr iaith.

Mae croeso i fyfyrwyr ddewis y fersiynau cyfrwng Cymraeg o fodiwlau bob tro, os mai dyna yw eu dymuniad. Ond, mae hefyd modd bod yn hyblyg ac amrywio cyfrwng yr astudio o fodiwl i fodiwl. Yn ogystal, fe geir hyblygrwydd yn achos yr iaith y dylid ei defnyddio wrth gwblhau gwaith asesiedig. Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn o gyflwyno eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, beth bynnag fo cyfrwng dysgu’r modiwl. Mae’r trefniadau dysgu hyn yn golygu bod bod ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn un sy’n agored i fyfyrwyr o ystod gwahanol o gefndiroedd ieithyddol.

Caiff darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr Adran ei chynnal gan dim o ddarlithwyr sy’n meddu ar arbenigeddau ymchwil ac addysgu amrywiol:

  • Damcaniaethau cenedlaetholdeb ac integreiddio Ewropeaidd yw meysydd arbenigedd Dr Anwen Elias. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cenedlaetholdeb lleiafrifol, yn enwedig yn Sbaen, Ffrainc a’r Deyrnas Unedig
  • Mudo rhyngwladol yw maes arbenigedd Dr Catrin Wyn Edwards. Mae ei diddordebau dysgu ac ymchwil yn cynnwys aml-ddiwylliannedd, dinasyddiaeth, mudo, gyda ffocws penodol ar genhedloedd neu ranbarthau is-wladwriaethol megis Cymru, Catalwnia, Quebec a New Brunswick.
  • Mae diddordebau dysgu ac ymchwil Dr Huw Lewis yn cynnwys: damcaniaeth gwleidyddol normadol, dadleuon ynglŷn ag aml-ddiwylliannedd a chenedlaetholdeb, gwleidyddiaeth iaith a gwleidyddiaeth gyfoes y Deyrnas Unedig.
  • Arbenigwraig ar wleidyddiaeth America Ladin yw Dr Lucy Taylor. Mae ei diddordebau dysgu ac ymchwil yn cynnwys materion rhywedd a hil, cyfranogiad a chynrychiolaeth, a hefyd datblygiad hanesyddol dinasyddiaeth a’r wladwriaeth yn America Ladin.
  • Mae ei diddordebau dysgu ac ymchwil Dr Elin Royles yn cynnwys gwleidyddiaeth Cymru; cymdeithas sifil a chyfranogaeth; datblygiadau yn y Deyrnas Unedig wedi datganoli; a Chymru yng nghyd-destun Ewrop ranbarthol.

Mwy o Wybodaeth

Os ydych angen mwy o wybodaeth am astudio Gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cysylltwch ag un o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg yr adran, Dr Huw Lewis (hhl@aber.ac.uk) gyrrwch neges ebost i gwleidyddiaeth@aber.ac.uk.

Cwestiynau cyffredin

Pa fath o fodiwlau sy’n cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae’r modiwlau a gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg o flwyddyn i flwyddyn yn rhai amrywiol sy’n cyffwrdd ar ystod o feysydd gwahanol, gan gynnwys: damcaniaethau gwleidyddol allweddol megis Rhyddfrydiaeth, Marcsiaeth, Cenedlaetholdeb a Ffeministiaeth; natur systemau gwleidyddol a rôl etholiadau, pleidiau a mudiadau protest; sialensau byd-eang cyfoes megis newid hindsawdd, mudo rhyngwladol neu ymlediad arfau niwclear; natur rhyfea a’r defnydd o gudd-wybodaeth mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a hefyd gwleidyddiaeth gyfoes Cymru a’r Deyrnas Unedig ac oblygiadau prosesau fel datganoli a Brexit. 

Beth yw maint y dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg?

Un o fanteision amlwg astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yw bod maint y dosbarthiadau yn llai ac felly mae modd dod i adnabod y staff dysgu yn dda. Mae’r union nifer sy’n astudio modiwlau gwahanol trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio (fel yn achos y Saesneg), ond y maint arferol ar gyfer ein modiwlau anrhydedd yw tua 8-10 myfyriwr

Faint o staff sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg?

Erbyn hyn mae pump o ddarlithwyr llawn amser yn cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yr Adran (gweler tudalen 6). Mae arbenigeddau ymchwil ac addysgu’r unigolion hyn yn amrywio ac o ganlyniad mae modd cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg helaeth sy’n cyffwrdd ar ystod o bynciau a themâu gwleidyddol pwysig

Ai dim ond y myfyrwyr sydd wedi dewis cwrs gradd gyda theitl Cymraeg sy’n medru dewis y modiwlau cyfrwng Cymraeg?

Na, mae modd i unrhyw fyfyriwr yn yr Adran ddewis astiudio ein modiwlau cyfrwng Cymraeg. Nid yw’r gallu i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddibynnol ar ba un o’n cynlluniau gradd y byddi di wedi ei ddewis.

Os yn dewis astudio modiwl cyfrwng Cymraeg a fydd rhaid cyflwyno fy ngwaith asesiedig yn y Gymraeg hefyd?

Na, mae gan yr Adran drefn hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith asesiedig trwy gyfrwng naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg. Os yn astudio modiwl cyfrwng Cymraeg mae gen ti’r opsiwn o gyflwyno dy waith trwy gyfrwng y Saesneg os mai dyna sydd orau gen ti. Yn yr un modd, os yn dewis astudio modiwl cyfrwng Saesneg bydd gen ti’r hawl i gyflwyno dy waith trwy gyfrwg y Gymraeg. Ym mhob achos bydd yr Adran yn sicrhau y caiff y gwaith ei farcio gan aelod cymwys o staff sy’n medru darllen y copi gwreiddiol yn hytrach na dibynnu ar gyfieithu.

A oes unrhyw gymorth ariannol penodol ar gael i’r sawl sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?

Oes. Yn y lle cyntaf mae pob un o gyrsiau gradd yr Adran yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir dau math gwahanol o ysgoloriaeth: mae’r Prif Ysgoloriaethau yn agored i fyfyrwyr sy’n ymrwymo i astudio o leiaf 80 credyd (h.y. 4 modiwl) trwy gyfrwng y Gymraeg bob blwyddyn ac mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant yn agored i fyfyrwyr sy’n ymrwymo i astudio o leiaf 40 credyd (h.y. 2 fodiwl) cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn. Am fwy o wybodaeth ynglŷn a’r ysgoloriaethau hyn gweler gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ogystal, mae cynllun Ysgoloriaethau Astudio Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn golygu bod myfyrwyr sy’n astudio o leiaf un modiwl cyfrwng Cymraeg y flwyddyn yn derbyn £150, tra bo’r sawl sy’n astudio dau fodiwl cyfrwng Cymraeg neu fwy yn derbyn £250.