Gyrfaoedd
Gwasanaethau Gyrfaoedd
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cael ei staffio gan dîm cyfeillgar a phrofiadol sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i adnabod eich cryfderau ac archwilio amrywiaeth eang o gyfleoedd er mwyn i chi wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol. - Gwasanaethau Gyrfaoedd |
Cyfleoedd o fewn yr Adran a'r Brifysgol
Cyfleoedd Gwirfoddol i'r Canmlwyddiant
|
Cynllun Interniaeth AberYmlaen Mae Cynllun Interniaeth AberYmlaen yn cynnig cyfle i raddedigion diweddar ymgymryd â gwaith ar lefel raddedig yn y Brifysgol, wedi’i gyfuno â hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. Am rhagor o wybodaeth am y interniaethau yma, ewch i - Cynllun Interniaeth AberYmlaen
|
Cynllun Haf AberYmlaen TMae'r Cynllun Haf AberYmlaen yn gyfle gwych ar gyfer myfyrwyr israddedig presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth i ymgymryd â phrofiad gwaith ystyrlon a hyfforddiant datblygiad proffesiynol. Am rhagor o wybodaeth am y gynllun yma, ewch i- Cynllun Haf AberYmlaen |
Cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith TMae'r Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (CBG) yn gyfle i ymgymryd â blwyddyn mewn cyflogaeth â thâl rhwng eich ail a thrydedd flwyddyn o astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gellir cwblhau'r lleoliad gyda sefydliad yn seiliedig yn y DU neu dramor. Bydd cymryd rhan yn CBG yn gyfle i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr a datblygu sgiliau proffesiynol a phersonol trosglwyddadwy y mae cyflogwyr graddedig yn chwilio am mewn ymgeiswyr. Am rhagor o wybodaeth , ewch i - Cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith |