Lleoliadau, Cyfnewid a'r Gemau Argyfwng

Lleoliadau

Mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o fywyd gwleidyddol, cynorthwyo Aelodau'r Senedd neu Aelodau'r Cynulliad yn Nhŷ'r Cyffredin neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru am tua 6 wythnos. Mae'r cynllun yn agored i fyfyrwyr ail flwyddyn yn unig. Am fwy o fanylion cysylltwch ag R. Gerald Hughes - Swyddog Cyflogadwyedd.

Tudalen Lleoliadau Seneddol

 

Ffurflen Cynllun Lleoliadau Ty'r Cyffredin a Senedd Cymru 2024

Dylai'r ffurflen hon gael ei chwblhau a'i chyflwyno gyda gweddill y cais, ynghyd â CV, esboniad un dudalen o pam rydych chi am fynd ar y cynllun trwy e-bost at R. Gerald Hughes a Ceuron Bryn Tecwyn erbyn 15 Chwefror 2024. Os cewch eich dewis i fynd ymlaen am leoliad, bydd y CV a'r datganiad personol yn cael eu hanfon at ASau/ACau posib. Mae'r ffurflen gais at ddibenion Adrannol yn unig. Bydd pob ymgeisydd yn cael ei hysbysu trwy e-bost erbyn 25 Chwefror 2024 i roi gwybod iddynt a ydynt ar y rhestr fer. Y dyddiad cyfweld dros dro ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer yn ystod wythnos 4 Mawrth 2024. Bydd ymgeiswyr sydd wedi'u dewis ar gyfer y cynllun yn cael eu hysbysu yn ystod wythnos 11 Mawrth 2024.

Llawlyfr Cynllun Lleoliad Seneddol 2022-23

Cyfnewid

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig i fyfyrwyr ar ei gynlluniau gradd israddedig y cyfle i dreulio rhan o'u hastudiaethau mewn prifysgol dramor. Gweler isod rhywfaint o wybodaeth am y cynlluniau cyfnewid  ar brifysgolion rydym wedi sefydlu cysylltiadau â hwy.

Astudio Dramor

Ffurflen Gais Cyfnewid 2022-23

Cyflwyniad Cyfnewid

 

Gemau Argyfwng

  Mae'r gemau efelychu argyfwng yn cael eu cynnal bob mis Tachwedd pan fydd myfyrwyr yn chwarae allan argyfwng ffuglen yn seiliedig ar ddigwyddiadau byd-eang cyfoes. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Gemau Argyfwng Dr Chris Phillips