Llais y Myfyrwyr

Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr

Mae’r pwyllgor hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i’r gwaith o lywio bywyd yr Adran

  • Cynrychiolwyr 2023-24 (i'w cadarnhau)

Rho Wybod Nawr

Hoffem wybod mwy ynglŷn â pha agweddau o fywyd ein myfyrwyr sy’n dod yn eu blaen yn dda – a pha agweddau y gellid eu gwella. Danfonwch neges atom trwy’r cyfeiriad rhowybodnawrgwleidyddiaeth@aber.ac.uk. Gellir canfod mwy o wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch Rho Wybod nawr o’r wefan

Gwerthuso modiwlau

Mae myfyrwyr yn cael cyfle i roi adborth ar eu modiwlau yn ystod y semester trwy’r MEQs - holiaduron gwerthuso modiwlau. Mae’r rhain yn gyfle gwych i ddweud wrth ddarlithwyr - yn ddienw - beth sy’n mynd yn iawn a beth gellid ei wella trwy ymateb i gwestiynau a sylwadau ‘testun rhydd’.

Gofynnir i staff wneud sylwadau ar yr ymatebion hyn (a gweithredu arnynt lle nad yw pethau'n gweithio cystal), ac fe'u dadansoddir ar lefel Adran ac ar lefel Prifysgol. Felly, ydym, rydym yn talu sylw i'r hyn rydych chi'n ei ddweud!