Ymwybyddiaeth Gyfredol – Gwybod y Diweddaraf

Heddiw mae gennym adnoddau electronig ar gyfer ymwybyddiaeth gyfredol sy’n gyflym ac effeithlon, ond mae casgliad dryslyd o adnoddau a gwasanaethau ar gael. Dyma gyflwyniad i rai o’r mathau o safleoedd a gwasanaethau efallai yr hoffech roi cynnig arnynt.

Rhybuddion

  • Gosodwch rybuddion Primo, catalog y llyfrgell, i gael negeseuon am stoc llyfrgell sy’n dod i mewn sy’n cyd-fynd â’ch chwiliadau rheolaidd gan ddefnyddio’r dewis Cadw ymholiad uwchben eich canlyniadau chwilio. Gallwch hefyd droi ymlaen hysbysiadau am yr ymholiadau hyn a fydd yn anfon hysbysiad e-bost atoch pan fydd diweddariad i'r ymholiad trwy glicio ar Troi ymlaen hysbysiadau ar gyfer yr ymholiad hwn (Turn on notification for this query) a fydd yn ymddangos ar frig y dudalen ar ôl i chi gadw'ch ymholiad, ac wedyn CADW (SAVE) (Nodyn: rhaid i chi fewngofnodi i gyflawni'r gweithrediad hwn).
  • Mae nifer o gronfeydd data a chasgliadau cyfnodolion ar-lein yn cynnig gwasanaethau rhybudd y bydd angen i chi gofrestru a mewngofnodi ar eu cyfer.
  • Yn benodol mae, JournalTOCS a ZETOC yn eich galluogi i gyflenwi chwiliad testun rhad ac am ddim am rybuddion tabl cynnwys (gyda’r olaf yn chwilio cyfnodolion a danysgrifir iddynt gan y Llyfrgell Brydeinig)
  • Mae Web of Science yn dda am osod rhybuddion pwnc ar gyfer pob pwnc.

Cymdeithasau Proffesiynol ac Academaidd

Dewch o hyd i gymdeithasau sy’n berthnasol i’ch pwnc a chewch weld pa gymorth, newyddion a gwybodaeth am hyfforddiant y maent yn eu darparu i’w haelodau:

 

Rhestrau Newyddion Ymchwil

Mae safleoedd rhestru newyddion yn arbed amser i chi trwy ddod â’r storïau newyddion cyfredol ar gyfer eich pwnc a thu hwnt ynghyd.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc.

Rhwydweithio Cymdaeithasol

Am arweiniad a syniadau ar sut y gall rhwydweithio cymdeithasol wella'ch proffil a'ch prosiectau ymchwil.