Hygyrchedd yn Llyfrgell Hugh Owen
- Mae toiledau hygyrch ar gael ar Lawr D ag E.
- Mae dolen sefydlu clyw integredig ar gael o'r brif Ddesg Ymholiadau.
- Gellir benthyg Trosluniau Lliw a chwyddwydrau o’r Ddesg Ymholiadau.
- Gellir cyrraedd prif fynedfa lefel D o'r piazza.
- Mae lifft ar gael i ddefnyddwyr sydd â phroblemau symudedd gael mynediad i'r lloriau eraill. Gofynnwch wrth y Ddesg Ymholiadau os oes angen cymorth arnoch.
- Y Larymau Tân yw'r mathau Klaxon a chloch. Mae rhybuddion byddar ar gael o'r Ddesg Ymholiadau.
- Mae'n hanfodol na ddylid defnyddio'r lifft pan fydd y larwm tân yn canu.
- Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd i drefnu Cynllun Personol Gadael Mewn Argyfwng (PEEP) i'r Llyfrgell os yn berthnasol.
Cysylltwch â ni os hoffech gael taith ddywysedig o amgylch ein cyfleusterau neu i drafod unrhyw ofynion penodol sydd gennych.