Gwasanaethau'r Llyfrgell - Yma i'ch helpu
Mannau Astudio
Adnoddau Dysgu ac Adolygu
- Clicio a Chasglu i fenthyg llyfrau
- Porwch Rhestrau Darllen Aspire
- Benthyg o'n casgliad o lyfrau Astudio Effeithiol - Chwiliwch am ‘STUDY’ yn Rhif Dosbarth yn Primo, catalog y Llyfrgell a mewngofnodwch i wneud cais
- Benthyg llyfrau o’r casgliad Llyfrau Presgripsiwn Cymru - Dyma gasgliad o lyfrau hunangymorth o safon uchel sydd wedi'u dewis yn arbennig gan seicolegwyr a chwnselwyr. Chwiliwch “book prescription wales” yn Primo, catalog y Llyfrgell a mewngofnodwch i wneud cais
- Gwasanaeth Digideiddio Pennod - Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth dros dro i ddigideiddio penodau o lyfrau tra bod mynediad at ddeunyddiau yn y Llyfrgell yn gyfyngedig.
- Hen bapurau arholiad - Dewiswch eich pwnc o’r rhestr yma: https://www.aber.ac.uk/cy/past-papers/
Cymorth Pwnc
- Libguides - eich porth gwybodaeth ac adnoddau pwnc - Dewiswch eich pwnc o’r rhestr yma: https://libguides.aber.ac.uk/c.php?g=660471
- Am gyngor arbenigol gwnewch apwyntiad un-yn-un gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc
Cymorth TG a chymorth cyffredinol
Rydym yma i helpu gyda phroblemau technegol neu unrhyw anhawster wrth ddefnyddio un o'n gwasanaethau.
Mae sawl ffordd ichi gysylltu â ni: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/