Cefnogaeth i ddysgwyr o bell
Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael i fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais i astudio gartref ac sydd wedi cael sêl bendith i wneud hynny. Bydd y breintiau dysgu o bell yn cael eu rhoi ar eich cyfrif llyfrgell ar ôl i'r Gofrestrfa Academaidd gymeradwyo eich cais i astudio o bell.
Cyfnod benthyca hwy
Y cyfnod benthyca arferol i ddysgwyr o bell yw pedair wythnos. Bydd llyfrau'n cael eu hadnewyddu bob pedair wythnos am bedair wythnos ychwanegol, ond bai:
- bod defnyddiwr arall wedi gofyn amdanynt
- nid oes modd i ddysgwr eu hadnewyddu mwyach
- mae eich cyfrif llyfrgell wedi dod i ben
Benthyca drwy'r post
Dim ond ar gyfer eitemau NAD YDYNT ar gael ar-lein y mae'r gwasanaeth benthyca drwy'r post ar gael.
- I wneud cais i fenthyca llyfr trwy'r post, dilynwch y cyfarwyddiadau yn: https://faqs.aber.ac.uk/2230
- Byddwch yn gallu defnyddio ein gwasanaeth dychwelyd rhad ac am ddim i ddychwelyd eich llyfrau.
- Tan iddynt gael eu derbyn yn y Llyfrgell, eich cyfrifoldeb chi yw pob eitem.
Y Gwasanaeth Digideiddio
Os nad yw llyfr ar gael i'w fenthyca, ac os nad yw ar gael ar-lein, gallwn sganio ac e-bostio hyd at un bennod o'r llyfr hwnnw atoch. Llenwch ein ffurflen gais i gael penodau mewn llyfrau
Cyflenwi Dogfennau
Gallwch wneud cais am sgan o erthyglau cyfnodolion a phenodau llyfr mewn eitemau nad ydynt i’w cael yn stoc y llyfrgell trwy ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau.