Iaith y Blog

Mae modd newid yr iaith ar eich blog i Gymraeg – bydd hyn yn effeithio ar y rhyngwyneb golygu a’r blog ei hun. I wneud hyn:

    1. Cliciwch ar Gosodiadau yn y ddewislen ar y chwith
    2. Yr opsiwn olaf ar Gosodiadau Cyffredinol yw “Iaith y Safle” – dewiswch Cymraeg o’r gwymplen a chliciwch “Cadw Newidiadau” i orffen.

Os ydych chi am i’r blog fod yn ddwyieithog, mae plugin ar gael (qTranslate-X) fydd yn caniatáu i chi wneud hyn. Cysylltwch â blogging@aber.ac.uk i ni allu eich helpu i’w sefydlu.