Casgliad Horton

Cyflwyniad

Mae Casgliad Horton o Ddeunyddiau i Blant yn cynnwys dros 800 0 eitemau sy'n dangos datblygiad llenyddiaeth plant yn ystod y ddau gan mlynedd o ganol y ddeunawfed ganrif tab 1913. Mae'r eitemau'n darlunio agweddau ar yr argraffu, ysgythru, darlunio, cyhoeddwyr, awduron a themâu a adlewyrchir yn Llenyddiaeth Plant y Ddeunawfed Ganrif a'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.

Mae prif ran y Casgliad yn dyddio o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a chafodd ei ffurfio dros gyfnod o ddeugain mlynedd gan y diwedda Ronald Horton a oedd cdiddordeb mewn darlunio yn bennaf ac felly, yn ogystal â deunyddiau printiedig, mae'n cynnwys panoramas, sioeau sbecian, theatrau pobl ifanc, gemau bwrdd, cardiau chwrae wedi'u peintio â llaw a thrugareddau eraill.

Mae'r Casgliad yn cynnwys copïau cydgysylltiol gyda llofnod y ceinlythrennydd Alfred Fairbank ac mae ganddo tua chant o sleidiau lliw o ddarluniadau o weithiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli fel arall.

Mae'r Casgliad yn ei gyflawnrwydd yn adnoddgwerthfawr o ymchwil i lenyddiaeth pobl ifanc, llyfryddiaeth hanesyddol a dadansoddol, cyhoeddi, darlunio, gwisgoedd a drama.

Maent wedi cael eu rhannu i'r categorïau canlynol:

  • Chwedlau
  • Mythau ac arwyr chwedlonol
  • Barddoniaeth; penillion ac odlau; caneuon
  • Gwyddorau; gwerslyfrau cyntaf; gramadegau
  • Hwiangerddi
  • Storïau meithrin a storïau tylwyth teg
  • Ffuglen - cyn 1850
  • Ffuglen 1850 i 1913
  • Llyfrau cyfarwyddyd
  • Cyfarwyddyd Crefyddol a'r Beibl
  • Bywgraffiad a Hanes
  • Teithio a daearyddiaeth
  • Gwyddoniaeth a Natur
  • Gemau, dylunio a llyfrau lliwio
  • Drama
  • Llyfrau tegan symudol
  • Cyfnodolion a blwyddlyfrau
  • Cofroddion a phethau amrywiol
  • Comics ceiniog
  • Almanaciau; llyfrau pen-blwydd; cardiau
  • Deunyddiau Cysylltiedig h.y. printiau; sleidiau; darluniau unigol.