Gytundeb a Chydnabyddiaeth Hawlfraint
Wrth wneud cais am eich Cerdyn Aber rydych yn cytuno i gadw at Reolau a Rheoliadau Gwasanaethau Gwybodaeth - http://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/. Mae hyn yn cynnwys cytuno â’r datganiadau canlynol parthed hawlfraint:
Llungopïo
Ymrwymaf i gadw gofynion y Ddeddf Hawlfraint 1988 (fel y’i diwygiwyd) a’r Cytundeb Trwyddedu Hawlfraint. Ymrwymaf i ddigolledi Prifysgol Aberystwyth yn erbyn unrhyw achosion, cynghawsau, hawliadau, archebion a chostau (gan gynnwys unrhyw gostau neu dreuliau cyfreithiol a gafwyd ac unrhyw gostau a threuliau iawndal a gaiff eu talu gan y Brifysgol ar gyngor eu cynghorwyr cyfreithiol i gyfaddawdu neu setlo unrhyw hawliadau) a achosir gan y Brifysgol mewn canlyniad i unrhyw dor-hawlfraint gennyf fi wrth ddefnyddio adnoddau ffotogopïo y Brifysgol. Yr wyf hefyd yn addo cwblhau ffurflen datganiad cyn ffotogopïo unrhyw erthygl cyfnodolyn neu ddarn byr o lyfr yn unrhyw un o Lyfrgelloedd y Brifysgol.
Defnydd o hawlfraint meddalwedd, cronfeydd-data ac adnoddau electronig pell
Cytunaf y bydd fy nefnydd o unrhyw feddalwedd neu gronfeydd-data cyfrifiadurol, gwaith cwrs neu ddeunydd tebyg y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel “y Cynnyrch” a fenthycir gennyf neu a geir gennyf drwy’r Sefydliad ble’r wyf yn fyfyriwr neu’n aelod o staff, yn dibynnu ar yr amodau canlynol:
- Byddaf yn sicrhau bod holl ofynion y cytundebau, contractau neu drwyddedau y delir y Cynnyrch odanynt gan y Sefydliad yn cael eu cadw. (Gellir gweld cytundebau neu gontractau perthnasol drwy wneud cais i’r Ysgol neu’r Adran a ddarparodd y Cynnyrch.)
- Byddaf yn glynu wrth y rheolau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio’r Cynnyrch os yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu rheoli gan fy Sefydliad fy hun neu gan gorff arall.
- Byddaf yn sicrhau y bydd unrhyw Ddatganiad Hawlfraint ar unrhyw gopïau o’r Cynnyrch a ddefnyddir gennyf yn cael ei gadw ac ni chaiff ei newid.
- Byddaf yn sicrhau Diogelwch a Chyfrinachedd unrhyw gopi a roddir i mi, ac ni wnaf gopïau ychwanegol ohono, nac yn fwriadol ganiatau i eraill wneud hynny oni chaniateir hynny gan y drwydded berthnasol.
- Byddaf yn defnyddio’r Cynnyrch at y pwrpas a nodir yn y Cytundeb yn unig, a dim ond ar y systemau a gwmpasir gan y cytundeb.
- Byddaf yn ymgorffori’r Cynnyrch, neu ran ohono, mewn gwaith, rhaglen neu erthygl a gynhyrchir gennyf i, dim ond lle y caniateir hynny gan y drwydded neu drwy “Fasnachu Teg”.
- Ni fyddaf yn ymgorffori fersiwn ddiwygiedig o’r Cynnyrch mewn unrhyw waith a ysgrifennir gennyf fi heb ganiatad penodol y Trwyddedwr neu onibai y caniateir hynny gan Cytundeb.
- Ni fyddaf yn amharu â nac yn dad-ddethol y Cynnyrch nac yn ceisio gwneud hynny oni chaniateir hynny yn benodol oddi fewn i dermau’r Cytundeb ar gyfer defnyddio’r Cynnyrch.
- Byddaf yn dychwelyd neu’n dinistrio copïau o’r Cynnyrch ar ddiwedd y cwrs/blwyddyn/cyfnod gwaith neu pan ofynnir i mi wneud hynny.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw ei hawl i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unigolion sydd yn peri iddo fod yn rhan mewn unrhyw achos cyfreithiol sy’n codi o ganlyniad i dorri cytundebau trwyddedu.