Dod o Hyd i a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer Eich Traethawd Hir

Mae'r tudalennau hyn wedi'u hanelu at eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth i'w defnyddio fel sail ar gyfer yr adolygiad llenyddol rhagarweiniol ar gyfer eich traethawd hir, gan adeiladu cefndir sy'n canolbwyntio ar y pwnc ymchwil rydych chi'n ei astudio o amrywiaeth o ffynonellau a adolygwyd gan gymheiriaid yn bennaf.

Rhennir y canllaw mewn i chwe adran:

  1. Ble i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich traethawd hir – y gwahanol gronfeydd data cyfeirio academaidd sydd ar gael
  2. Cronfeydd data cyffredinol sy'n cynnwys llenyddiaeth dros lawer o bynciau
  3. Dewis Termau Chwilio / Ymadroddion ac Adeiladu Strategaeth Chwilio
  4. Dod o hyd i erthyglau sy’n berthnasol i’ch traethawd hir
  5. Sut i reoli’r cyfeiriadau rydych wedi eu casglu – Cyflwyniad i strategaethau a meddalwedd rheoli cyfeiriadau (e.e. )
  6. Sut i fformatio’r cyfeiriadau yn eich llyfryddiaeth – Cyflwyniad i Arddulliau Cyfeirnodi (e.e. Harvard, APA)

Gyda’i gilydd, mae’r adrannau hyn yn creu Continwwm Chwilio am Wybodaeth - gweler y model isod:

Prif Adnoddau

  • Papurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid mewn cyfnodolion academaidd
  • Diweddariadau newyddion o gylchgronau a gwefannau academaidd

Adnoddau Eilaidd

  • Papurau adolygu mewn cyfnodolion academaidd (wedi’u hadolygu gan gymheiriaid)
  • Penodau mewn llyfrau’n crynhoi datblygiadau diweddar (wedi’u golygu)
  • Cyfeiriadau o gronfeydd data llyfryddiaethol

Adnoddau Trydyddol

  • Llawlyfrau’n adolygu pwnc trafod cyfan o’r cychwyn cyntaf
  • fel arfer wedi’u cyhoeddi ar ffurf llyfrau/e-lyfrau

Ble i Ddod o Hyd i Wybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir

Mae’n bwysig paratoi cynllun ar gyfer dod o hyd i gyfeiriadau sy’n berthnasol i’ch traethawd hir – gelwir y cynllun hwn fel arfer yn 'strategaeth chwilio'.

Bydd y strategaeth hon yn seiliedig ar bwnc/pynciau trafod eich traethawd hir ac unrhyw gyfyngiadau penodol y mae eich adran/goruchwyliwr wedi eu gosod. Efallai y bydd eich diddordebau’n gyfyngedig i rai pynciau trafod penodol yn eich maes, yn ôl dyddiad, yn ôl ardal ddaearyddol, yn ôl dull dadansoddi penodol, neu yn ôl safbwynt/agwedd benodol ar y pwnc.

Mae’n bosib y bydd rhai pynciau trafod cysylltiedig wedi eu cynnwys a rhai heb eu cynnwys. Mae’n bwysig trafod y cyfyngiadau hyn a chytuno arnynt gyda’ch goruchwyliwr er mwyn gallu llunio eich strategaeth chwilio’n briodol.

 

Mae’n bwysig rhoi pwyslais wrth chwilio ar y llenyddiaeth wedi’i hadolygu gan gymheiriaid yn eich pwnc. Ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau, bydd penodau wedi’u golygu mewn testunau ymchwil ysgolheigaidd gan gyhoeddwyr dibynadwy hefyd yn bwysig. Cofiwch hefyd ei bod yn bosib na fydd rhai datblygiadau diweddar (y rhoddir sylw iddynt ar sianeli newyddion dibynadwy cenedlaethol/rhyngwladol) wedi cyrraedd y llenyddiaeth wedi’i hadolygu gan gymheiriaid eto. Drwy gynnwys rhai eitemau newyddion diweddar dethol o ffynonellau dibynadwy gallwch ddangos eich bod yn dilyn y datblygiadau hyn ym maes pwnc eich traethawd hir.

Cofiwch hefyd, er bod mwyafrif helaeth y llenyddiaeth ddiweddar sydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid bellach ar gael ar-lein, y bydd llawer o bapurau cynharach mewn cyfnodolion a llyfrau a gyhoeddwyd cyn canol y 1990au ar gael mewn print yn unig. Mae ystod blynyddoedd tanysgrifiadau Prifysgol Aberystwyth i e-gyfnodolion a’u rhifynnau print cynharach ar gael ar Primo.

Dewis y Cronfeydd Data i’w Chwilio

Gallwch ddod o hyd i ystod y cronfeydd data arbenigol sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy naill ai:

Os ydych yn ymchwilio i bwnc amlddisgyblaethol, argymhellir eich bod yn dechrau drwy ddod o hyd i’ch cronfeydd data yn yr ABiéC o Adnoddau.

Rydym yn argymell ar gyfer traethodau hir eich bod bob amser yn defnyddio mwy nag un gronfa ddata i ddod o hyd i gyfeiriadau. Yn ddelfrydol, bydd un gronfa ddata cyffredinol ac un gronfa ddata mwy penodol i’r pwnc yn darparu ystod dda o gyfeiriadau perthnasol.

Mae’n ddigon posib y bydd gorgyffwrdd rhwng y cyfeiriadau a geir mewn gwahanol gronfeydd data, ond bydd pob cronfa ddata’n cynnwys rhai cyfeiriadau sy’n unigryw oherwydd bydd i bob un ei phwyslais penodol a gallant amrywio o ran cwmpas daearyddol ac ystod y data.

Fel y dywedwyd eisoes, gallwch atgyfnerthu eich cyfeiriadau ag eitemau o ffynonellau newyddion a gwefannau dibynadwy, yn enwedig lle bo eich pwnc o ddiddordeb cyhoeddus.

Cronfeydd Data Cyffredinol sy’n Cwmpasu Llenyddiaeth dros Amrywiaeth o Bynciau

Bydd y cronfeydd data isod yn dod o hyd i gyfeiriadau sy’n berthnasol i holl sbectrwm pynciau adrannau Prifysgol Aberystwyth:

 

Cronfa DdataDisgrifiad
Casgliadau Aber Primo

Cofnodion o’r holl lyfrau, e-lyfrau ac adroddiadau sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth. Gall y CHA ynghylch chwilio Primo eich helpu i ddefnyddio holl wahanol adnoddau.

Drwy ddefnyddio nodwedd Pori Rhithwir Primo gallwch gael gafael ar lyfrau ar yr un pwnc â’r un rydych yn edrych arno ar y pryd:

Os oes angen llyfr penodol arnoch nad yw ar gael yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, gallwch ofyn am gopi i’w brynu drwy ein cynllun Mwy o Lyfrau. Bydd y Llyfrgell yn talu am brynu’r eitemau.

Erthyglau a Mwy Primo

Bydd yr holl bapurau a geir drwy ddefnyddio tab Erthyglau a Mwy Primo yn dangos y testun llawn. Cofiwch fewngofnodi cyn dechrau chwilio. Os nad ydych ar y campws, mae’n bosib y bydd angen llwytho cysylltiad VPN ar eich cyfrifiadur er mwyn gweld testun llawn rhai erthyglau.

Defnyddiwch y tab Primo Aber+ er mwyn cynnwys papurau lle nad oes hawl i weld y testun llawn wrth chwilio. Mae manylion ynghylch creu strategaethau chwilio yn Primo ar gael yn nhudalennau cymorth Primo.

Web of Science (Web of Knowledge)

Yn ymdrin â phynciau gwyddoniaeth, y gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau/dyniaethau, gydag ymdriniaeth o wyddoniaeth yn mynd yn ôl i 1945, y gwyddorau cymdeithasol i 1956 a’r celfyddydau a’r dyniaethau i 1975

Ebsco Business Source Complete via EbscoHost

Yn mynegeio ystod eang o erthyglau mewn cyfnodolion, llyfrau, adroddiadau a chylchgronau ar amryw helaeth o bynciau, gyda phwyslais ar fusnes/economeg ond â chwmpas eang yn y gwyddorau a’r celfyddydau.

JSTOR

Teitlau ar gael yn aml mewn rhediadau cyflawn (h.y. o ddyddiad y rhifyn cyntaf) mewn archif sy’n aml yn mynd yn ôl hyd at 4-5 mlynedd cyn y rhifynnau cyfredol. Pwyslais ar deitlau’r celfyddydau/dyniaethau.

OCLC Worldcat

Yn cynnwys dros 43 miliwn o gofnodion yn disgrifio daliadau llyfrgelloedd sy’n aelodau o OCLC. Nid yw’n darparu testun llawn ond mae’n ffordd wych o ddod o hyd i gyfeiriadau at lyfrau, adnoddau’r we, fideos ac ati)

Zetoc

Cronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o erthyglau cyfnodolion/cynadleddau yn seiliedig ar ei daliadau ei hun, yn cynnwys dros 20 miliwn o gofnodion. Hawl i weld testun llawn yn dibynnu ar danysgrifiadau Prifysgol Aberystwyth.

Gale Reference Complete

Cronfa ddata newyddion gyda chynnwys o dros 12,000 o bapurau newydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o 100 o wledydd ledled y byd.

Google Scholar

Yn chwilio cynnwys cyhoeddwyr academaidd, cymdeithasau proffesiynol ac archifau cyn print o bob cwr o’r byd ar bob pwnc. Dangosir y canlyniadau yn ôl trefn Google ei hun. Hawl i weld papurau testun llawn yn dibynnu ar danysgrifiadau Prifysgol Aberystwyth.

Aberystwyth Research Portal

Dewch o hyd i erthyglau gan ddarlithwyr ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.

 

Dewis Termau/Ymadroddion a Chreu Strategaeth Chwilio

Isod ceir canllawiau cyffredinol ar y camau i’w cymryd wrth ddewis termau/ymadroddion a’u cynnwys yn eich strategaeth chwilio:

  1. Torrwch bwnc trafod eich traethawd i lawr yn nifer fach o gysyniadau cysylltiedig
  2. Nodwch dermau ac ymadroddion sy’n gysylltiedig â phob cysyniad yr ydych yn meddwl y gallent fod yn dermau chwilio defnyddiol.  Dechreuwch gyda thermau cyffredinol ac yna symudwch tuag at dermau mwy penodol i bob grŵp o gysyniadau

 

  1. Gwnewch chwiliad cychwynnol mewn cronfa ddata gyffredinol, gan gyfuno’r termau a’r ymadroddion rydych wedi eu dewis i bob cysyniad.  Mae’n well fel arfer nodi pob grŵp o dermau mewn blwch chwilio ar wahân os gallwch.
  2. Ychwanegwch fwy o dermau allweddol i bob un o’ch grwpiau, megis terminoleg wahanol, geiriau cyfystyr, amrywiadau sillafu, wrth i chi ddod ar eu traws yng nghanlyniadau eich chwiliad cychwynnol
  3. Defnyddiwch symbolau cwtogi (* yn aml) i gynnwys gwahanol derfyniadau i’r termau yn eich chwiliad (e.e. i gynnwys ffurfiau unigol a lluosog)
  4. Rhowch unrhyw ymadroddion yn eich grwpiau o dermau chwilio mewn dyfynodau (e.e. “newid yn yr hinsawdd”)

 

Dangosir enghraifft o strategaeth chwilio a baratowyd gan ddefnyddio camau 1-6 uchod yng nghronfa ddata'r Web of Science isod:

  1. Defnyddiwch hidlyddion a gynigir gan eich cronfa ddata i gyfyngu nifer y canlyniadau yn ôl dyddiad, iaith, dull, daearyddiaeth ac ati.
  2. Gall hidlo’r papurau adolygu allan fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o gael darlun eang o’r datblygiadau diweddar yn eich pwnc a hefyd o ddod o hyd i fwy o dermau chwilio.
  3. Allbynnwch y cyfeiriadau rydych am eu cadw o’r chwiliad cychwynnol hwn naill ai fel ebost atoch chi eich hun, neu drwy gadw ffeil neu lawrlwythiad mewn pecyn rheoli cyfeiriadau fel EndNote.

 

Gwnewch rifau 3-9 eto mewn cronfa ddata fwy arbenigol, gan ychwanegu unrhyw dermau defnyddiol eraill y dewch o hyd iddynt ar gyfer y grŵp perthnasol o gysyniadau, hyd nes y byddwch yn fodlon â’ch chwiliad.  Defnyddiwch yr un dull ag y gwnaethoch ar gyfer y gronfa ddata gyffredinol i allbynnu eich canlyniadau.

Mae clip yn dangos rhannau cyntaf y strategaeth hon, a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer myfyrwyr nyrsio ar gael ar wefan Prifysgol Gorllewin Lloegr.

Dewis yr Erthyglau Gorau ar gyfer yn Eich Traethawd Hir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ceir amryw o gwestiynau isod y gallwch eu gofyn i weld a yw papur penodol yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i’w gynnwys yn eich traethawd. Drwy asesu papurau yn erbyn y cwestiynau hyn gallwch weld pa gyfeirnodau i’w cynnwys a pha rai i’w diystyru:

1. PWY – Pwy ysgrifennodd yr erthygl? A oes manylion cyswllt ar gael? A ydynt yn gysylltiedig â sefydliad ac iddo enw da? A yw’r papur mewn cyfnodolyn wedi’i adolygu gan gymheiriaid neu a yw’r ansawdd yn cael ei reoli gan olygyddion? Edrychwch ar safon y ramadeg a’r sillafu. Os ydych yn edrych ar wefan, a oes adran “Amdanom ni” yn dangos nodau’r sefydliad a gynhyrchodd y wybodaeth.

2. BETH – Beth mae’r safle neu’r eitem yn ei drafod? Beth yw ei ddiben? Ar ba lefel y mae wedi’i ysgrifennu? Beth mae URL y wefan yn ei ddweud wrthyf amdani? A yw’n academaidd neu’n fasnachol? A yw’r wybodaeth a roddir yn glir ac yn gryno.

3. PAM – Pam ysgrifennodd yr awdur(on) y papur neu’r erthygl a chyhoeddi’r gwaith? A yw’r ffynhonnell yn dangos tuedd neu a yw’n ddiduedd? A oes gwahaniaeth amlwg rhwng yr hysbysebu a’r wybodaeth sydd yn y cynnwys? Pam mae’r wefan hon neu’r eitem print yn ddefnyddiol i fy ymchwil?

4. PRYD – Pryd ysgrifennwyd y papur? A yw’n debygol o fod yn hen ffasiwn? Pryd gafodd y wefan ei diweddaru ddiwethaf? Chwiliwch am arwyddion fod y wefan yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a gochelwch rhag y gwefannau hynny lle mae llawer o’r dolenni cyswllt wedi torri.

5. SUT – Pa fethodoleg a ddefnyddiwyd i roi’r deunydd at ei gilydd?  Ai dyma’r fethodoleg y mae gennych ddiddordeb ynddi? A yw maint y samplau’n ddigonol er mwyn gallu llunio casgliadau credadwy? A oes digon o ddyblygiadau wedi’u cynnwys yn y dyluniad?  A oes grŵp rheoli ystadegol y gellir cymharu effeithiau unrhyw driniaethau ag ef?

6. BLE – O ble y daw’r wybodaeth? A ydych wedi clywed amdani o’r blaen? Os nad ydych, gwiriwch y cynnwys mewn ffynonellau eraill. Chwiliwch am ffynonellau gwybodaeth wedi’u cyfeirnodi’n llawn. I ble y mae’r dolenni cyswllt a roddir mewn gwefan yn cyfeirio? A yw’r dolenni hyn yn ddibynadwy?

Mae cyfeiriadau sy’n pasio pob prawf yn debygol o fod yn berthnasol iawn i bwnc eich traethawd a bydd yn werth ystyried eu cadw at y dyfodol. Ar ôl i chi gasglu eich set gyntaf o gyfeiriadau, mae’n dda o beth eu cadw a gofyn i’ch goruchwyliwr am ei farn arnynt. Dylai casglu cyfeiriadau gyda’ch gilydd fod yn broses sy’n digwydd dro ar ôl tro a bydd eich goruchwyliwr yn gallu rhoi arweiniad i chi ynghylch a ddylech ehangu neu gyfyngu eich strategaeth chwilio er mwyn dod o hyd i set dda o bapurau. Trafodir yn yr adran nesaf sut i storio a rheoli’r cyfeiriadau rydych wedi’u casglu. 

Nodyn ar Bapurau Adolygu

Ar y dechrau, mae’n aml yn dda o beth dewis ambell i "erthygl adolygu" ar bwnc eich traethawd i’w darllen yn fanwl oherwydd byddant yn cyfeirio at nifer o bapurau uniongyrchol a allai fod yn berthnasol hefyd i’ch astudiaeth benodol chi. Mae hidlydd penodol ar lawer o gronfeydd data i godi’r papurau adolygu o blith y cyfeiriadau y mae eich chwiliad eisoes wedi dod o hyd iddynt.

Cael gafael ar destun llawn y papurau rydych wedi eu dewis, a’u darllen

Bydd llawer o’r llyfrau a’r papurau rydych wedi’u dewis i’w defnyddio yn eich traethawd hir ar gael naill ai yn llyfrgelloedd y Brifysgol neu bydd cyswllt uniongyrchol ar-lein ar gael iddynt drwy e-danysgrifiadau Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth. Os nad oes fersiynau print nac ar-lein o’r llyfr neu’r papur ar gael drwy Primo, gan gynnwys pan fo’r erthygl wedi’i chuddio y tu ôl i wal dalu, defnyddiwch y ffyrdd isod o gael gafael arnynt:

Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Mae manylion ynglŷn â’r daliadau sydd ar gael at ddibenion cyfeirio yn y Llyfrgell Genedlaethol ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.  

Mae cofrestru i ddefnyddio’r Llyfrgell Genedlaethol yn orfodol. Mae ffurflenni cofrestru ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.

Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau Prifysgol Aberystwyth:  
Mae’r pum eitem cyntaf y gofynnir amdanynt drwy’r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ar gael yn rhad ac am ddim i israddedigion.

Sut i Fformatio'r Cyfeirnodau yn Eich Llyfryddiaeth

Mae canllawiau cyffredinol ar ddefnyddio Word i ysgrifennu traethodau hir, megis canllawiau arddull, templedi a dogfennau meistr ar gael yn: http://faqs.aber.ac.uk/50

O safbwynt eich cyfeirnodau, mae ystod eang iawn o wahanol arddulliau cyfeirnodi’n cael eu defnyddio drwy’r byd – mae rhai’n fwy poblogaidd nag eraill ar gyfer gwahanol bynciau a gwahanol bynciau trafod o fewn pynciau.

Mae rhai o’r prif enghreifftiau a’r fformatau a ddefnyddir i’w gweld yn labordy ysgrifennu OWL - https://owl.english.purdue.edu/owl/section/2/ a hefyd yn Citation Machine - http://www.citationmachine.net

 

‌Fel y gwelwch yn y sleid uchod o Citation Machine, mae sawl gwahanol fersiwn o’r prif arddulliau hefyd (e.e. yn ôl cyhoeddwr, cyfnodolyn penodol).

Bydd eich Adran yn nodi yn llawlyfr y cwrs neu’r modiwl pa arddull cyfeirnodi penodol y bydd angen i chi ei ddefnyddio.  Mae’n debyg y byddwch wedi bod yn defnyddio’r un arddull mewn aseiniadau ysgrifenedig o’r blaen. Cadwch at yr arddull hwn bob amser wrth gyfeirnodi eich traethawd hir, a byddwch yn gyson wrth ddefnyddio priflythrennau, teip ac atalnodi.

Mae’r sleid isod yn rhoi enghreifftiau o gyfeirnodau yn y testun a chyfeirnodau llyfryddiaethol yn arddull Harvard, un enghraifft yn defnyddio cyfeirnod safonol ac un yn defnyddio dyfyniad. Mae rhai o adrannau’r Brifysgol yn defnyddio fersiynau penodol o Harvard.

 

Mae’r rhan fwyaf o arddulliau cyfeirnodi’n dilyn confensiwn o drefnu elfennau’r cyfeirnod drwy enwi’r awduron yn gyntaf, yna deitl y papur, ac yna fanylion ynglŷn â ble mae’r papur yn ymddangos, ac yna’r dyddiad y gwelwyd yr eitem os ydych yn cyfeirnodi adnodd ar y we. 

Isod ceir cyfres o enghreifftiau o wahanol fathau o gyfeiriadau (erthygl mewn cyfnodolyn, llyfr, e-lyfr, pennod mewn llyfr, adnodd ar y we) yn arddull cyfeirnodi’r Annals of the Association of American Geographers (AAAG) a ddefnyddir gan ddaearyddwyr dynol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r arddull hwn yn fersiwn o arddull cyfeirnodi Harvard.

Bydd yr hyn sy’n cael ei gynnwys mewn cyfeirnodau ar gyfer llyfrau, erthyglau, penodau ac ati yr un fath at ei gilydd ym mhob arddull cyfeirnodi. Yr hyn a fydd yn wahanol fydd y ffordd y nodir enw’r awdur, nifer yr awduron i’w cynnwys cyn defnyddio et al (i ddynodi ‘ac eraill’), yr atalnodi a mân newidiadau yn y drefn.

 

Arddull Cyfeirnodi AAAG

 

‌‌

Confensiynau Enwi Cyfnodolion

Yn y gorffennol, roedd llawer o arddulliau’n cyflwyno eu talfyriadau eu hunain i enwau cyfnodolion, er mwyn arbed lle mewn llyfrau ac erthyglau print. Erbyn hyn, mae’r gwahanol arddulliau cyfeirnodi wedi rhoi’r gorau i’r drefn hon gyda dyfodiad e-lyfrau ac e-gyfnodolion a dylech bob amser gyfeirnodi enwau cyfnodolion yn llawn.

 

Confensiynau Enwi Awduron

Wrth ddisgrifio awduron, mae’r rhan fwyaf o arddulliau cyfeirnodi’n dilyn patrwm Cyfenw yn gyntaf ac yna’r Enw bedydd, sy’n golygu bod trefn safonol yr enw’n newid. Fel arfer, defnyddir priflythrennau’r enw bedydd yn unig, gydag atalnod llawn ar eu hôl yn y rhan fwyaf o arddulliau ond nid mewn eraill.

Cofiwch hefyd fod confensiynau enwi gwahanol drwy’r byd a bydd angen ystyried hyn wrth gyfeirnodi e.e. enwau Arabaidd, enwau Tsieineaidd, enwau Byrmanaidd, enwau Indiaidd. Er enghraifft, yn iaith Malaysia, gellir rhoi enw bedydd ac yna’r patronym neu enw personol y tad. Ym Mhortiwgal, mae gan unigolion enw bedydd, yna enw teuluol y fam ac yna enw teuluol y tad. Bydd y gwahanol gonfensiynau cenedlaethol hyn yn ymddangos yn gywir fel arfer yn y cyfeiriadau y dewch o hyd iddynt mewn cronfeydd data a dylid eu dilyn wrth gyfeirnodi yn y testun ac yn y llyfryddiaeth.

Sut i Reoli'r Cyfeirnodau Rhydych Wedi Casglu

Mae’n ddefnyddiol iawn gallu mynd ati’n systematig i gasglu’r cyfeiriadau rydych wedi’u dewis ar gyfer eich traethawd er mwyn eu cadw mewn un lle a’u hadfer yn ôl y galw wrth ysgrifennu eich adolygiad.

Gall strategaethau amrywio o:

  1. Prosesau syml iawn fel defnyddio eich E-Silff Primo; Gall hwn fod yn strategaeth addas os ydych yn gweithio gyda nifer bach iawn o gyfeiriadau (e.e. <25) ar bwnc ble mae'r llenyddiaeth yn brin.
  2. strategaethau mwy datblygedig fel defnyddio nodwedd Dyfyniadau a Llyfryddiaeth Word; Gall hwn fod yn addas pan rydych wedo casglu nifer rhesymol o gyferiadau, ond dim nifer enfawr (e.e. 25-75 o gyfeiriadau).
  3. meddalwedd lawn Rheoli Cyfeiriadau fel EndNote a’r fersiwn symlach ar y we EndNote Online; Mae hyn yn mwyaf addas pryd rydych yn gweithio gyda nifer fawr iawn o cyfeiriadau (e.e. 100+).

Gallwch weld canllaw cyffredinol y brifysgol ar Reoli Cyfeirio ar ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth.

 

E-Silff Primo

Mae canllawiau ar storio cyfeiriadau gan ddefnyddio’r E-Silff Primo ar gael yma.

 

Dyfyniadau a Llyfryddiaeth yn Word

Mae canllawiau cyffredinol ar ddefnyddio Word i ysgrifennu traethawd hir ar gael yn ein Cwestiynau a Holir yn Aml.

Mae canllawiau ar ddefnyddio nodwedd Dyfyniadau a Llyfryddiaeth Word ar gael yma.

 

Meddalwedd Rheoli Cyfeiriadau

Mae llawer o raglenni meddalwedd a systemau ar gael i’ch helpu i drefnu eich cyfeiriadau a’u rhoi yn eich papurau a’ch traethodau hir.

EndNote yw’r feddalwedd rheoli cyfeiriadau a gefnogir ar gyfer rheoli a storio cyfeiriadau a chreu llyfryddiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fersiwn bwrdd gwaith a fersiwn ar-lein rhad ac am ddim EndNote yn cael eu cefnogi.

Tra'n ysgrifennu eich traethawd hir yn Word, bydd rhyngweithio ag Endnote yn rhoi'r holl opsiynau angenrheidiol i chi ar gyfer nodi dyfniadau mewn-destun a chreu eich llyfryddiaeth ar yr un pryd. Wrth i chi ychwanegu dyfyniadau o EndNote o fewn y testun, bydd y llyfryddiaeth yn dechrau ymddangos yn awtomatig yn yr arddull gyfeirio a ddewiswyd gennych, ac yn y drefn gywir ar gyfer yr arddull honno.

Cofiwch i greu dyfyniadau a llyfryddiaethau sy'n gyson gyda'r canllawiau arddull y ddarparir gan eich adran.

Mae Prifysgol Aberystwyth gyda tudalennau cymorth penodol ar gyfer EndNote Online, gan gynnwys dolen ifideo cymorth.

Mae EndNote Desktop wedi’i lwytho ar bob gweithfan gyhoeddus yn ystafelloedd cyfrifiaduron ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac sydd ar gael i’w brynu ar gyfrifiaduron personol

Dewch o hyd i gymorth penodol ar gyfer EndNote Desktop yma. Mae yna hefyd tudalennau cymorth ar gyfer y fersiwn hyn ar wefan EndNote.

 

Pam defnyddio meddalwedd cyfeirio?

Mae rhai o'r ffyrdd y mae meddalwedd rheoli cyfeirio fel EndNote yn cael ei ddefnyddio ar gael yn y diagram isod:

 

Mae fersiynau EndNote Desktop ac EndNote Online yn golygu y gallwch gasglu, trefnu a rheoli eich cyfeiriadau. Gallwch gysoni eich llyfrgell EndNote rhwng offer bwrdd gwaith, ar-lein ac i-pad sy’n golygu y gallwch agor eich cyfeiriadau ble bynnag yr ydych. Gall EndNote alluogi amryw helaeth o arddulliau cyfeirnodi wrth allbynnu a gellir ei integreiddio â’r rhan fwyaf o’r cronfeydd data allanol mawr fel Web of Science ar gyfer mewnforio cyfeiriadau.

I gychwyn EndNote X7 yn un o ystafelloedd cyfrifiaduron Prifysgol Aberystwyth: Cliciwch ar Start > All Programs > Word Processing > Endnote X7.

I agor EndNote Online ar y we, gallwch naill ai gofrestru drwy gronfa ddata Web of Science neu’n uniongyrchol yn EndNote Online. Sylwer y bydd mwy o gronfeydd data ar gyfer mewnforio cyfeiriadau a mwy o arddulliau allbynnu cyfeiriadau ar gael i chi os cofrestrwch drwy Web of Science.

Wrth ysgrifennu yn Word, mae bar offer EndNote yn ymddangos fel a ganlyn:

 

N.B. Mae canllaw cyffredinol Prifysgol Aberystwyth ynglŷn â defnyddio Word ar gyfer ysgrifennu traethodau hir, megis canllawiau arddull, templedi a dogfennau meistr ar gael yma: http://faqs.aber.ac.uk/50