
Un o nodweddion pwysicaf ysgrifennu academaidd yw cydnabod llyfrau, erthyglau cyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth eraill rydych wedi’u defnyddio yn eich gwaith, fel arfer drwy gyfeirio atynt yn eich aseiniad a rhestru pob un ar y diwedd mewn llyfryddiaeth. Yn aml iawn, fe gewch farciau am wneud hyn yn gywir felly mae’n sgil sy’n werth ei dysgu cyn gynted ag y gallwch.
Os na fyddwch yn cydnabod eich ffynonellau mae’n bosib y byddwch yn cyflwyno syniadau neu ddyfyniadau rhywun arall fel eich rhai chi eich hun. Llên-ladrad yw hynny; nid yw’r Brifysgol yn caniatáu hyn a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.
Cewch wybod mwy ar y dudalen hon am lên-ladrad, cyfeirnodi a ble i gael cymorth a chyngor.
Ystyr llên-ladrad yw cyflwyno gwaith rhywun arall fel eich gwaith chi eich hun e.e.:
- peidio â chyfeirnodi awdur rydych wedi dyfynnu o un o’i lyfrau neu erthyglau yn eich aseiniad
- copïo a gludo testun o’r rhyngrwyd yn eich aseiniad heb nodi’r ffynhonnell
- copïo rhan o draethawd ffrind neu’r cyfan ohono i’ch traethawd chi
- prynu traethawd ar-lein neu o ffynhonnell arall
Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y mae’r brifysgol yn ei ystyried yn llên-ladrad ar gael, a beth sy'n digwydd os ydych chi'n llên-ladrata, yn y Rheoliadau ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
- Mae’r canlyniadau’n ddifrifol; gall myfyrwyr a ddysgir drwy gwrs gael eu diarddel o’r brifysgol a gall myfyrwyr ymchwil uwchraddedig fethu elfen traethawd ymchwil eu cwrs
- Pan gyflwynwch aseiniad rhaid i chi lofnodi blaenddalen i nodi eich bod yn deall canlyniadau llên-ladrad
- Bydd meddalwedd y brifysgol ar gyfer cyflwyno gwaith ar-lein, Turnitin, yn chwilio drwy eich aseiniad am dystiolaeth o lên-ladrad a bydd pwy bynnag sy’n marcio eich aseiniad yn gweld yr adroddiad a gynhyrchir
Meddalwedd rheoli cyfeirio sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth i'ch helpu i drefnu eich cyfeiriadau a fformatio eich dyfyniadau a llyfryddiaethau:
Mae meddalwedd rheoli cyfeirio arall ar gael; er nad ydym yn ei gefnogi, efallai y gallwn eich helpu i'w ddefnyddio gyda Primo ac adnoddau gwybodaeth eraill.