Beth i Ddarllen a Sut i'w Ffeindio
Beth i Ddarllen?
Bydd y rhan fwyaf o’r deunyddiau a ddarllenwch yn ystod eich gradd yn perthyn i un o ddau gategori:
- Llyfrau, erthyglau a phenodau y gofynnir i chi eu darllen ar restrau darllen modiwlau; a
- Deunydd rydych chi eich hun yn dod o hyd iddo drwy chwilio ac ymchwilio’n annibynnol. Gweler 'Sut i ddod o hyd iddo'
Beth yw Rhestr Darllen?
Rhestr o lyfrau, erthyglau, gwe-dudalennau ac ati a ddarparwyd gan diwtor y modiwl i gyd-fynd â’ch cwrs.
Lle alla i ddod hyd i fy rhestri darllen?
Cliciwch y tab Fy Modiwlau yn Blackboard ac yna cliciwch ar ddolen gyswllt Rhestr Ddarllen Aspire ar ochr chwith y sgrin.
Cliciwch y tab Fy Modiwlau yn Blackboard (blackboard.aber.ac.uk) ac yna cliciwch ar ddolen gyswllt Rhestr Ddarllen Aspire ar ochr chwith y sgrin.
Sut ydw i'n ei Ddefnyddio?
Drwy glicio ar deitl yr adnodd cewch fwy o wybodaeth am yr eitem.
Os mai llyfr sydd dan sylw, fe welwch y mynegrif lle gallwch ddod o hyd i’r llyfr yn y llyfrgell.
Os mai pennod mewn llyfr sydd dan sylw, mae’n bosib y bydd wedi’i digideiddio – i ddod i hyd i gynnwys sydd wedi’i ddigideiddio yn eich modiwl, ewch i adran Dogfennau wedi’u Digideiddio y modiwl ar dudalen y modiwl ar Blackboard. Nid pob pennod sy’n gallu cael ei digideiddio; os felly, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio mynegrif y llyfr, dod o hyd iddo yn y llyfrgell ac yna chwilio am y bennod berthnasol. Cofiwch na fydd y bennod wedi’i digideiddio os oes e-lyfr ar gael eisoes.
Os yw eich Rhestr Ddarllen yn cyfeirio at erthygl benodol, bydd yn aml ar gael yn electronig. Drwy glicio ar y ddolen gyswllt fe welwch yr erthygl y mae angen i chi ei darllen. Pobl broffesiynol a/neu arbenigwyr yn y maes sy’n ysgrifennu erthyglau, a chânt eu hadolygu gan gymheiriaid yn aml, sy’n golygu eu bod yn ffynonellau da ac yn cynnwys gwybodaeth ysgolheigaidd ddibynadwy o safon uchel.
Nid pob erthygl sydd ar gael yn electronig. Os nad yw’r erthygl sydd ei hangen arnoch ar gael yn electronig, bydd angen i chi chwilio am fersiwn print y cyfnodolyn ar silffoedd y llyfrgell. Cyhoeddiad ysgolheigaidd a gyhoeddir yn rheolaidd yw cyfnodolyn, ac mae’n cynnwys nifer o erthyglau, yn aml iawn yn ymdrin ag un pwnc. Rhoddir mynegrifau i gyfnodolion yn debyg i lyfrau. Mae’n bosib y bydd rhai erthyglau mewn cyfnodolion wedi’u digideiddio a bydd y rhain ar gael i chi yn yr adran Dogfennau wedi’u Digideiddio yn Blackboard.
Defnyddiwch fynegrif y cyfnodolyn, a rhif yr argraffiad a’r tudalennau i ddod o hyd i’r erthygl iawn.
I gael gwybod sut i ddod o hyd i lyfrau, erthyglau ac adnoddau eraill drosoch eich hun, ewch i’r tudalennau Chwilio am Ddeunyddiau Pwnc
Y Llyfrgelloedd
Mae Llyfrgell Hugh Owen, prif lyfrgell y dyniaethau, ar Gampws Penglais; yno hefyd y ceir adnoddau’r gwyddorau amgylcheddol a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Mwy o fanylion am Lyfrgell Hugh Owen.
Ar Gampws Penglais hefyd y mae Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Mae ar 4ydd llawr Adeilad y Gwyddorau Ffisegol ac yno y ceir y casgliadau mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Yng Nghanolfan Llanbadarn y mae Llyfrgell Thomas Parry. Yno y ceir adnoddau Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith ac Astudiaethau Gwybodaeth. Dysgwch fwy am Lyfrgell Thomas Parry.
Datblygu arferion da ac ymarferion gweithio diogel.
Wrth ddefnyddio adnoddau gwahanol, a gweithio ar eich aseiniadau eich hun, mae’n bwysig meithrin arferion da ac arferion gweithio diogel
Defnyddio adnoddau
Cadw cofnod o’r llyfrau, erthyglau ac ati a ddefnyddiwch, h.y. storio cofnodion (ceir dolen gyswllt i storio cofnodion yn yr adran nesaf). Mae hyn yn bwysig i’ch helpu i gofio lle daethoch chi o hyd i ABC ac er mwyn meithrin arferion cyfeirnodi da ac osgoi llên-ladrad (dolenni cyswllt i’r adran JRC).
Sut mae gwneud yn siŵr na fyddaf yn colli fy ngwaith?
Arferion gweithio diogel eraill: bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau hawlfraint ar lungopïo, sganio ac ati.
Sut ydw i'n ei Ffeindio?
Bydd y rhan fwyaf o’r pethau a ddarllenwch yn ystod eich gradd yn perthyn i un o ddau gategori: deunydd a awgrymir yn y rhestrau darllen a deunydd rydych chi eich hun yn dod o hyd iddo drwy chwilio ac ymchwilio’n annibynnol.
Mae dysgu sut i ddod o hyd i lyfrau, erthyglau a chyfnodolion sy’n gysylltiedig â’r maes sydd o ddiddordeb i chi yn sgil bwysig i’w datblygu wrth i chi astudio.
Chwilio yn eich pwnc yn annibynnol
Wrth i chi astudio, bydd disgwyl i chi ddod o hyd i wybodaeth a ffynonellau drosoch eich hun. Gall meddwl am y math o ddeunydd sydd ei angen arnoch, sut y caiff y wybodaeth honno ei disgrifio, ynghyd â dysgu rhai technegau chwilio arbed amser ac ymdrech wrth chwilio am lyfrau, erthyglau cyfnodolion a dogfennau eraill.
Gwahanol fathau o gyhoeddi
Gall chwilio am ffynonellau academaidd ar gyfer eich astudiaethau fynd yn drech na chi – gan fod cymaint o wybodaeth ar gael mewn gwahanol fathau o ddogfennau, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.
Os ydych yn edrych ar bwnc nad ydych wedi’i astudio o’r blaen, gall Gwyddoniaduron neu Erthyglau Adolygu fod yn lle da i ddechrau. Bydd y rhain o gymorth i chi i ddeall y termau allweddol, diffinio eich pwnc a helpu i ddatblygu geirfa ar gyfer ymchwilio i bwnc penodol.
Gall monograffau (llyfrau am bynciau penodol) gynnwys trafodaeth fanwl ar bwnc penodol, neu gynnig ymdriniaeth hanesyddol â’r pwnc. Cofiwch edrych i weld pryd y cyhoeddwyd y llyfr a holi – a yw’r pwnc wedi symud yn ei flaen ers cyhoeddi’r llyfr hwn?
Mae cyfnodolion academaidd yn cynnwys yr erthyglau a’r ymchwil diweddaraf ar y pwnc dan sylw. Gellir defnyddio erthyglau cyfnodolion academaidd i ddilyn y datblygiadau diweddaraf yn eich pwnc. Maent ar gael naill ai’n electronig, neu ar silffoedd y llyfrgell.
Yn dibynnu ar eich diddordebau a’r pwnc rydych yn ei astudio, gall ffynonellau’r cyfryngau fod yn ddefnyddiol. Gall papurau newydd gynnig safbwynt cyfoes ar ddigwyddiadau.
Yn dibynnu ar y pwnc, gallech hefyd ddefnyddio dogfennau arbenigol fel adroddiadau cyfreithiol, deddfwriaeth, cofnodion y llywodraeth, adroddiadau busnes neu astudiaethau gwyddonol.
Offer Darganfod
Pan fyddwch yn gwybod pa fath o ddogfen rydych yn chwilio amdani, bydd angen yr offeryn iawn arnoch er mwyn dod o hyd iddi.
Gallwch ddefnyddio Primo – catalog y llyfrgell – i chwilio drwy bopeth yng nghasgliadau’r llyfrgell ar ffurf ffisegol neu electronig. Cliciwch y tab ‘Casgliadau Aber’ i ddod o hyd i lyfrau, cyfnodolion, adroddiadau, papurau newydd, DVDs a deunyddiau eraill.
Cliciwch y tab Erthyglau a Mwy i chwilio am erthyglau unigol yn yr holl gronfeydd data sydd ar gael yn y llyfrgell.
Gallwch hefyd fynd yn uniongyrchol i gronfa ddata benodol (fel JSTOR, Web of Science, neu HeinOnline) i chwilio am erthyglau cyfnodolion. I gael gwybod pa gronfeydd data sy’n berthnasol i’ch pwnc, ewch i dudalen ‘Gwybodaeth am y Pwnc’ eich adran a chlicio ar y tab Adnoddau Electronig.
Adeiladu Geirfa Chwilio
Mae catalogau llyfrgelloedd a chronfeydd data cyhoeddiadau academaidd yn ymddwyn yn wahanol i Google ac felly mae’n rhaid i chi fynd ati’n wahanol i chwilio am wybodaeth.
Gall dysgu rhai technegau chwilio fod o gymorth i chi i ddod o hyd i’r ddogfen sydd ei hangen arnoch wrth ddefnyddio amryw o wahanol gronfeydd data, gan gynnwys catalog y llyfrgell, cronfeydd data erthyglau (fel JSTOR) a gellir eu defnyddio hefyd i wella cywirdeb y canlyniadau mewn peiriannau chwilio sy’n cael eu defnyddio’n aml (fel Google).
Ceir disgrifiad manwl o ddulliau o greu geirfa chwilio yn Dod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich traethawd hir, a’i rheoli.
Geiriau Allweddol
Er mwyn dod o hyd i wybodaeth berthnasol, dylech feddwl am yr allweddeiriau mwyaf defnyddiol i’w defnyddio wrth chwilio. Weithiau, gallwch ddefnyddio cwestiwn traethawd i ddechrau casglu allweddeiriau a fydd yn ddefnyddiol wrth chwilio, er enghraifft:
Sut y mae damcaniaeth ffeministaidd a gwleidyddiaeth rhywedd wedi dylanwadu ar gelfyddyd ers yr 1970au?
Y geiriau pwysicaf yma yw ‘ffeministaidd’, ‘gwleidyddiaeth rhywedd’ a ‘celfyddyd’. Dyna fydd man cychwyn eich chwiliad. Efallai y byddai’n dda o beth sicrhau eich bod yn deall pob term, a defnyddio geiriaduron a gwyddoniaduron arbenigol i wneud yn siŵr eich bod yn deall pob cysyniad. Wedyn, beth am geisio meddwl am eiriau eraill sy’n cyfleu cysyniadau tebyg. A oes geiriau sy’n gyfystyr â’ch allweddeiriau? A yw eich allweddeiriau weithiau’n cael eu sillafu’n wahanol? Pa ysgrifenwyr, artistiaid neu ymarferwyr pwysig sy’n gysylltiedig â’r cysyniadau hyn? A yw’r termau hyn yn 'eang' neu’n 'gul'? Gall yr atebion i’r cwestiynau hyn roi geiriau eraill i chi i’w hychwanegu at eich rhestr o allweddeiriau.
Defnyddio 'NEU' i Ehangu'ch Chwiliad
Ar ôl i chi greu rhestr o allweddeiriau a geiriau amgen, gallwch ddefnyddio “A/AND” neu “NEU/OR” naill ai i gyfyngu neu i ehangu eich chwiliad.
Bydd y gair “NEU/OR” yn ehangu eich chwiliad drwy ofyn i’r gronfa ddata ddangos canlyniadau sy’n cynnwys unrhyw rai o’ch allweddeiriau (ond nid o reidrwydd bob un). Drwy chwilio Casgliadau Aber am ‘ffeministiaeth NEU “gwleidyddiaeth rhywedd”’ / ‘feminism OR “gender politics”’ fe gewch lawer o ganlyniadau. Yma, gallech fireinio eich chwiliad ymhellach drwy hidlo yn ôl dyddiad, y sawl a’i creodd neu leoliad.
Gair i gall: Wedi i chi ddod o hyd i lyfr defnyddiol efallai y byddwch am chwilio am fwy o lyfrau ar yr un pwnc. Os felly cliciwch ar 'Pori Rhithwir' yn Primo ac fe welwch y llyfrau a ddylai fod nesaf at yr eitem ar silffoedd y llyfrgell, felly mae’n ffordd dda o gael gwybod yn gyflym pa lyfrau sydd ar gael ar y pwnc dan sylw.
Defnyddio 'A' i Gyfyngu'ch Chwiliad
Bydd y gair “A/AND” yn cyfyngu eich chwiliad drwy ofyn i’r gronfa ddata ddod o hyd i ganlyniadau sy’n cynnwys eich holl dermau yn unig. Hefyd, mae 'Celfyddyd’ / ‘Art' yn derm eang iawn, felly efallai y byddwch am ddefnyddio term mwy cyfyng yn ei le i wneud yn siŵr bod eich chwiliad yn rhoi canlyniadau defnyddiol. Er enghraifft, dyma rai o’r canlyniadau a geir wrth chwilio am “ffeministiaeth A paentio A 1970au” / “feminism AND painting AND 1970s” yn ‘Erthyglau a Mwy’:
Gair i gall: Wedi i chi ddod o hyd i erthygl neu lyfr defnyddiol, trowch at y llyfryddiaeth i gael gweld pa weithiau eraill sydd wedi dylanwadu ar y gwaith hwn – gallwch wneud hyn yn gyflym drwy glicio ar y botwm 'citations' gyferbyn â llawer o’r cofnodion yn Erthyglau a Mwy:
Storio Cofnodion
Ar ôl i chi ddod o hyd i ddeunydd darllen defnyddiol a pherthnasol, mae’n siŵr y byddwch am gadw cofnod ohono er mwyn gallu dod iddo eto’n rhwydd. Mae sawl ffordd o wneud hynny – y ffordd fwyaf sylfaenol yw defnyddio’r E-Silff yn Primo. Yma cewch storio a threfnu cofnodion ar gyfer llyfrau ac erthyglau y dewch o hyd iddynt er mwyn gallu dod o hyd iddynt eto. I wneud hyn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i Primo. Pan ddewch o hyd i lyfr neu erthygl defnyddiol, cliciwch ar y seren fach yn ymyl y teitl a bydd yn troi’n oren.
Pan gliciwch ar y ddolen gyswllt i’ch e-silff (yn y gornel uchaf ar y dde), fe welwch yr holl eitemau rydych wedi’u nodi â seren. O’r fan honno gallwch drefnu’r cofnodion hyn mewn ffolderi, neu gadw nodiadau i drefnu eich ymchwil.
Mae’r e-silff yn ffordd hawdd o storio a threfnu cyfeiriadau, ond gallwch hefyd ddefnyddio mathau eraill o feddalwedd rheoli cyfeiriadau. Mae EndNote Online ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth.
Gweler mathau eraill o feddalwedd ddefnyddiol ar gyfer cyfeirnodi.
Gwerthuso beth ydach wedi darganfod
Wedi i chi ddod o hyd i ddogfen, ystyriwch pa mor ddibynadwy neu ddilys yw’r ddogfen honno.
Ystyriwch: ble daethoch chi o hyd iddi? Drwy gronfa ddata academaidd y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddi, neu ar y we agored? Mae cynnwys cronfeydd data y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt fel rheol wedi ei adolygu gan gymheiriaid er mwyn sicrhau ansawdd, neu wedi ei guradu gan arbenigwyr yn y maes. Gallai erthyglau ar y we agored fod wedi eu hysgrifennu gan unrhyw un. Meddyliwch yn feirniadol am y deunyddiau rydych yn eu defnyddio: meddyliwch amdani fel proses rheoli ansawdd academaidd.
Dyma rai o’r cwestiynau y gallech feddwl amdanynt:
- Pwy ysgrifennodd yr erthygl? Beth yw lefel eu harbenigedd? Beth yw eu hagweddau tuag at y pwnc?
- Pam wnaethon nhw ei hysgrifennu? Ai trafodaeth feirniadol, academaidd a geir, neu a gafodd yr erthygl ei hysgrifennu at ryw ddiben arall? (H.y. hyrwyddo, hysbysebu, newyddon/newyddiaduraeth, ac ati.)
- Pryd ysgrifennwyd hi? Pa mor gyfoes yw’r erthygl? A yw wedi’i diweddaru’n ddiweddar?
Ceir mwy o gyngor ar bwyso a mesur ffynonellau gwybodaeth yn Nodi a Dewis Cyfeiriadau i’ch Traethawd Hir, yn yr adran ar baratoi eich traethawd hir.
Beth i wneud os nad ydach yn gallu dod hyd i rywbeth
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, peidiwch â phoeni! Y peth pwysicaf i’w gofio yw bod staff y llyfrgell yno i’ch helpu, ac mae croeso i chi alw i mewn i’r llyfrgell a gofyn wrth y ddesg, neu gysylltu â’r Llyfrgellydd Pwnc a fydd yn gallu rhoi cymorth manwl i chi i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau a’u defnyddio.
Cofiwch ein bod yn ffodus yn Aberystwyth – mae un o ddim ond 6 llyfrgell hawlfraint yn y byd ar stepen ein drws: mae’n bosib y bydd yr eitem neu’r llyfr rydych yn chwilio amdano ymhlith un o gasgliadau helaeth iawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Os nad yw’r eitem sydd ei hangen arnoch yn cael ei chadw yma nac yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae’n bosib y byddwn yn gallu ei benthyca o brifysgol arall gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau. Wrth i chi barhau â’ch astudiaethau efallai y bydd angen i chi ddefnyddio llyfrgelloedd arbenigol. Gallwch ddefnyddio COPAC i chwilio drwy gatalogau llawer o lyfrgelloedd ymchwil ar unwaith, felly mae’n offeryn defnyddiol i gael gwybod am lyfrau i’w defnyddio mewn gwaith ymchwil.
Yn olaf, os nad yw’r llyfr rydych am ei ddarllen yn cael ei gadw yn y llyfrgell ac os ydych yn meddwl y dylai fod ar gael, rhowch wybod i ni! Gall myfyrwyr ddefnyddio’r ymgyrch Mwy o Lyfrau i argymell ein bod yn prynu llyfr, neu’n prynu rhagor o gopïau o lyfrau sydd gennym mewn stoc eisoes.
- Gwasanaethau Gwybodaeth
- Ynglŷn â ni
- Oriau Agor
- Gwybodaeth i Fyfyrwyr
- Gwybodaeth i Staff
- Gwybodaeth i Ymwelwyr
- Gwasanaethau Llyfrgell
- Adnoddau Gwybodaeth Electronig
- Benthyca o’r Llyfrgell
- Carelau astudio ac ystafelloedd astudio i grwpiau
- Casgliadau
- Cerdyn Aber
- Cyflenwi Dogfennau
- Cyfleusterau gwylio DVD/Fideo
- Cynllun Benthyca Dwyochrog Aberystwyth/Bangor
- Defnyddio llyfrgelloedd eraill
- Digideiddio
- Dirwyon
- Eiddo Coll
- Gwasanaeth Rhyng-Safle
- Gwybodaeth Pwnc
- Hen Bapurau Arholiad
- Lamineiddio
- Lleoliadau Llyfrgelloedd
- Llyfrgell Hugh Owen
- Llyfrgell Thomas Parry
- Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
- Loceri
- Mwy o lyfrau (Myfyrwyr yn unig)
- Parthau Astudio
- Rhestrau Darllen
- Rhestrau Darllen Aspire
- Rhwymo
- Sgiliau Gwybodaeth
- Adolygu Ar Gyfer Arholiadau
- Beth i Ddarllen a Sut i'w Ffeindio
- Cadw i fyny yn eich pwnc astudio
- Cyflogadwyedd
- Cymorth, Cyngor a Hyfforddiant
- Data ac Adnoddau Cyfryngol Ar-lein
- Dechrau Arni
- Dod o hyd i ddeunydd yn y Llyfrgell
- dyfyniadau a llyfryddiaeth yn Word
- EndNote Ar-Lein
- EndNote Ben-ddesg
- Gweithio oddi Ar y Campws
- Marciau Gwell Efo Cyfeirnodi Da
- Meddalwedd
- Paratoi Am Eich Traethawd Hir
- Ystorfa Allanol
- Gwasanaethau TG
- Cymorth a Chefnogaeth
- CHA
- Adborth
- Cysylltu â Ni
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberyswtyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk