Eich Primo newydd: Chwilio Catalog Llyfrgell

Mae’r Llyfrgell wedi lansio adnodd chwilio newydd a gwell ar gyfer Primo: Catalog y Llyfrgell, yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Bydd hyn yn cynnig gwell mynediad at y cyfoeth o adnoddau print ac ar-lein sydd ar gael yn y Brifysgol.

Chwilio

Mae’r chwiliad diofyn “Llyfrgelloedd” yn darparu chwiliad o’r casgliad o adnoddau ar-lein a phrint y mae’r Llyfrgell wedi tanysgrifio iddynt. Mae hyn yn cynnwys eitemau diriaethol yn y llyfrgelloedd: llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd yn ogystal ag e-lyfrau, e-gyfnodolion a ffynonellau electronig eraill o wybodaeth y mae Prifysgol Aberystwyth wedi tanysgrifio iddynt.

Dewiswch yr opsiwn “Popeth” i gyfuno cynnwys “Llyfrgelloedd” yn ogystal â’r e-ddeunyddiau eraill sydd ar gael, i gynyddu nifer y canlyniadau a ddychwelir yn sylweddol. Mae’r chwiliad hwn yn caniatáu i chi nodi manylion y deunydd rydych ei angen hyd at lefel enwau erthyglau unigol.

Screenshot of library catalogue

 

  • Llyfrgelloedd – mae’r chwiliad hwn (sef y chwiliad diofyn) yn dod o hyd i’r pethau canlynol
    • eitemau yn y llyfrgelloedd ar y campws: llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, pamffledi, DVDs,
    • e-lyfrau, e-gyfnodolion a ffynonellau electronig eraill o wybodaeth y mae’r Brifysgol wedi tanysgrifio iddynt (chwiliadau am e-lyfrau/e-gyfnodolion yn hytrach na phenodau/erthyglau unigol oddi mewn iddynt).
  • Erthyglau – chwiliad o lu o erthyglau o gyfnodolion gan gyhoeddwyr cyfranogol; dychwelir canlyniadau gyda thestun llawn ar-lein.
  • Popeth – chwiliad sy’n cyfuno deunydd “Llyfrgelloedd” yn ogystal â’r e-ddeunyddiau eraill sydd ar gael, i gynyddu nifer y canlyniadau a ddychwelir yn sylweddol. Mae’r chwiliad hwn yn caniatáu i chi nodi manylion y deunydd rydych ei angen hyd at lefel enwau erthyglau unigol.
  • Porth Ymchwil Aberystwyth – yn cynnig mynediad at ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, gan gynnwys allbynnau cyhoeddedig a thraethodau ôl-raddedig.
  • Chwiliad WHELF - yn dychwelyd canlyniadau o gatalogau llyfrgelloedd Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF).

Chwilio’n Fanylach

Yn ogystal ag edrych yn well, mae’r adnodd chwilio newydd yn dipyn haws i’w defnyddio. Gallwch nawr ddefnyddio ystod o hidlyddion newydd sydd wedi’u lleoli o dan y blwch chwilio i fireinio meini prawf eich chwiliad. Hidlwch yn ôl math o eitem (pob eitem, llyfrau, cyfnodolion neu ddeunydd clyweledol), ac yn ôl awdur/allweddair (yn ôl awdur, allweddair teitl, rhif dosbarth, allweddair pwnc, allweddair disgrifiad, ISBN/ISSN) i roi’r cyfle gorau i chi’ch hun i ddod o hyd i’r adnoddau rydych eu hangen.

Screenshot of library catalogue

Mewngofnodi i wneud cais am eitemau

Mewngofnodwch i gael canlyniadau llawn ac i wneud cais am eitemau. Os yw’r llyfr yr hoffech ei fenthyg allan ar fenthyg i rywun arall, mewngofnodwch i archebu’r llyfr ac fe ddylech ei gael o fewn wythnos. Cofiwch wirio eich e-byst a/neu “Fy Nghyfri Llyfrgell” yn rheolaidd am negeseuon yn eich hysbysu bod y llyfr wedi’i ddychwelyd ac ar gael i chi ei fenthyg.

Screenshot of library catalogue

Cadw ac allforio eitemau o’ch chwiliad

Os oes gennych eitemau wedi’u cadw ar eich E-Silff yn fersiwn flaenorol Catalog y Llyfrgell, bydd y rhain yn cael eu trosglwyddo i’r fersiwn newydd, a gellir dod o hyd iddynt o dan Eitemau wedi’u cadw yn “Fy Nghyfrif”. Ni fydd yr eitemau hyn mewn ffolderi bellach, ond byddant wedi’u tagio â’r enwau ffolder a ddefnyddiasoch.

Yn ogystal â’r llu o opsiynau newydd, mae chwiliad newydd Primo: Catalog y Llyfrgell wedi cadw nifer o’r elfennau creiddiol o’r catalog blaenorol. Gallwch dal allforio dyfyniadau i EndNote, creu dolenni i’r eitemau rydych wedi’u canfod, a chyfeirnodi’r eitemau (mewn dewis o arddulliau cyfeirnodi).

 

Screenshot of library catalogue 

Cymorth

Gallwch ddod o hyd i Primo: Catalog y Llyfrgell mewn nifer o leoliadau cyfleus ar-lein:

Gallwch hefyd glicio yma i ddefnyddio Primo: Catalog y Llyfrgell a chreu nod tudalen ar gyfer eich dolen uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost: llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc