Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019 - Amlygu a dathlu cyfraniad merched Prifysgol Aberystwyth

Bydd gan lyfrgell Hugh Owen arddangosfa yn dathlu’r menywod cyntaf a ddaeth i astudio ym Mhrifysgol a’r rhan a fu ganddynt yn gwneud Prifysgol Aberystwyth yr hyn yw heddiw. Bydd yr arddangosfeydd yn cynnwys menywod a astudiodd yma a’r fenyw gyntaf i fod yn Brifathro, ynghyd â menywod eraill dylanwadol a astudiodd yma. O sgrolio i lawr fe gewch ragor o wybodaeth am rai o’r menywod rydyn ni'n dathlu eu cyfraniad i Brifysgol Aberystwyth yn academaidd a thu hwnt i hynny.

 

Y Fyfyrwraig Gyntaf

Louise Davies oedd y fenyw gyntaf i ymuno â Choleg Prifysgol Cymru. Ar ôl ennill ysgoloriaeth mynediad, ymunodd â’r Coleg pan oedd yn 16 mlwydd oed ym 1884. Am oddeutu tri mis, hi oedd yr unig fenyw yn y Coleg cyn i eraill ymuno â hi.

 

 

Y Fenyw Raddedig Gyntaf

Mary Louisa Carter oedd y fenyw gyntaf i raddio o Aberystwyth

 

 

 

 

Cadair, Pennaeth Adran, a Phrifathrawes Dros Dro

Mae Lily Newton yn aelod pwysig o staff Aberystwyth. Hi oedd yr Athro benywaidd cyntaf a’r Pennaeth Adran benywaidd cyntaf yn Aberystwyth (1930) ond, ar ben hynny, penodwyd hi yn Brifathrawes dros dro ar ôl marwolaeth Ifor Evans yn 1952. Yr oedd hi’n dysgu Botaneg, ac ymddeolodd o’r Coleg ym 1958. Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ar Lily Newton: ‌Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

 

Neuadd Preswyl

Yn 1895, Aberystwyth oedd y Brifysgol gyntaf i agor Neuadd Breswyl i fenywod, sef Neuadd Alexandra, a enwyd ar ôl y Dywysoges Alexandra a agorodd y neuadd yn swyddogol ym Mehefin 1896. Ystafell yn Neuadd Alexandra: 

Ystafell yn Neuadd Alexandr:

 

Cydraddoldeb drwy Siarter

Mae Siarter 1896 y Brifysgol yn nodi’n glir bod cydraddoldeb yn rhan allweddol o genhadaeth Aberystwyth:

“Bydd menywod yr un mor gymwys â dynion ar gyfer mynediad at unrhyw Radd y mae gan y Brifysgol yr awdurdod i’w chadarnhau drwy’r Siarter hon. Bydd pob swydd yn y Brifysgol a grëir drwy hyn ac aelodaeth o bob awdurdod a sefydlir trwy hyn ar agor i fenywod a dynion yn gyfartal”.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017, bydd gan lyfrgell Hugh Owen arddangosfa yn dathlu menywod yn hanes cynnar Prifysgol Aberystwyth a’r rhan a chwaraewyd ganddynt wrth greu'r Brifysgol sydd ohoni heddiw. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys y menywod cyntaf i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a’n Prifathro benywaidd cyntaf, ynghyd â menywod dylanwadol eraill a fu’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth am y menywod yr ydym yn dathlu eu cyfraniad i Brifysgol Aberystwyth yn y maes academaidd a'r tu hwnt.  

Myfyrwyr go iawn? …Go brin

Er bod pob hanes safonol a ysgrifennwyd am y Coleg yn dweud mai Louise Davies oedd y fenyw gyntaf a ddaeth yma’n fyfyriwr, yr oedd menywod wedi bod yn astudio yn Aberystwyth ers 1875, yn yr adran Gerdd. Astudiai’r menywod hyn gyda Joseph Parry (cyfansoddwr enwog yr alaw Gymreig, Myfanwy).
Cawsant eu hanwybyddu gan haneswyr y Coleg, gan gynnwys Dr E. L. Ellis yn ei gyfrol am hanes y sefydliad a gyhoeddwyd ym 1972:
“Wrth gwrs, fe fu menywod yn fyfyrwyr rhan-amser yn nyddiau Joseph Parry yn yr adran Gerdd, ond go brin y gellid dweud iddynt gael eu hystyried yn fyfyrwyr go iawn”.



Ym 1874, roedd dwy fenyw, Kate Rees a Lizzie Edwards (y ddwy o Aberystwyth), yn astudio Cerddoriaeth yn y Coleg. Uchod mae llun o’r menywod o 1875-6 ac rydym yn gallu rhoi rhai enwau ochr yn ochr â’r llun hwn:
1. Hattie Davies, Caerdydd
2. Maggie Edwards, Ffestiniog
3. G Griffiths, Llanberis
4. Mary Jones, Aberystwyth
5. Nellie Owens, Unol Daleithiau America
6. Annie Williams, Caerdydd
7. Cordelia Edwards, Y Bermo

Dydyn ni ddim yn gwybod pwy yw pwy o blith yr enwau – os ydych chi, cofiwch roi gwybod i ni.

Amlygu a dathlu cyfraniad menywod Prifysgol Aberystwyth i Academia a thu hwnt

Swolegydd a pharasitolegydd o Gymru oedd Florence Gwendolen Rees, (3ydd Gorffennaf 1906 – 4ydd Hydref 1994), a fu, yn olynol, yn Ddarlithydd Cynorthwyol, Darlithydd, Uwch Ddarlithydd, Darllenydd, ac Athro ac a ddaeth yn Athro Emeritws yn 1973. Hi oedd y Gymraes gyntaf i ddod yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac fe’i hetholwyd hefyd yn Gymrawd yr Athrofa Bioleg. Bu’n Is-lywydd ac yn Llywydd Cymdeithas Brydeinig Parasitoleg a chyhoeddodd 68 o bapurau ymchwil, yn ogystal â hyfforddi llaweroedd o fyfyrwyr.

 

Mae Marie Breen Smyth o Ogledd Iwerddon yn awdur academaidd, athrawes ac ymchwilydd, a bu’n Ddarllenydd  mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Radicaleiddio a Thrais Gwleidyddol Cyfoes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd hi yw golygydd y cylchgrawn  Critical Studies on Terrorism, ac mae hi wedi cyhoeddi lliaws o ysgrifau a llyfrau’n ymwneud â’r gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon, yn arbennig effaith trawma, gwleidyddiaeth dioddefwyr a chrefydd a gwrthdaro, yn ogystal ag ysgrifennu am drais gwleidyddol yn Ne Affrica, a’r gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina. Mae hi hefyd yn ymwneud â’r prosiect ‘Iachâd drwy Gofio’, a fwriadwyd i ystyried sut y gall Gogledd Iwerddon ddelio â’i gorffennol, ac mae ei llyfr diweddaraf yn ymdrin â’r pwnc adfer y gwir o afael hanes rhagfarnllyd.   ‌‌‌

 

Athro Astudiaethau Heddwch a Gwrthdaro yn y Brifysgol Heddwch gysylltiedig â’r Cenhedloedd Unedig yw Dr Mary Elizabeth King, ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Aberystwyth. Bu’n rhan o’r mudiad hawliau sifil yn America yn y 1960au a chwaraeodd ran hanfodol wrth sicrhau bod erchyllterau a gâi eu cyflawni yn erbyn dinasyddion duon yn cael eu cofnodi, ac yn peri bod y cyhoedd a’r genedl yn ymwybodol o’r SNCC (Pwyllgor Cyd-drefnu Di-drais y Myfyrwyr). Y mae hefyd yn gyd-awdur ysgrifau  ar rywiaeth ac ar drin menywod yn anghyfartal yn y mudiad hawliau sifil. Prynodd hi a’i gŵr fferm yn Nhregaron yn y 1970au gyda’r ddiadell fwyaf o lamaod yn y DU, ond mae hi’n dal i gymryd rhan mewn llawer o grwpiau academaidd sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol a chydraddoldeb, ac mae hi’n un o grŵp byd-eang o 200 o academyddion sy’n ceisio sicrhau bod Astudiaethau Heddwch yn cael eu haddysgu a’u dysgu.

 

Rhewlifegydd ac un o’r dim ond 8 menyw sydd wedi derbyn Medal Begynol yw Tavi Murray. Enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg a Chyfrifiadureg yn Aberystwyth yn 1990. Bu’n ddarlithydd, Darllenydd ac yn Athro Rhewlifeg ym Mhrifysgol Leeds ac ym Mhrifysgol Abertawe ar ôl hynny. Mae hi ar flaen y gad yn yr ymchwil i un o’r pynciau dadleuol cyfoes mwyaf pwysfawr, sef newid hinsawdd ac mae’n ymddiddori’n arbennig mewn llif rhewlifoedd ac yn y raddfa mae rhewlifoedd yn cyfrannu at godi lefel y môr yn fyd-eang, gyda phrosiectau yn mynd rhagddynt yn y maes yn yr Arctig, yr Antarctig a rhanbarthau mwyaf rhewlifol y byd.  ‌

 

Bardd Cymraeg ac academydd yw’r Athro Christine James a hi yw’r fenyw gyntaf i fod yn Archdderwydd Cymru. Enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a PhD am draethawd ymchwil ar Ddeddfau Hywel Dda, ac mae hi wedi ennill gwobrau llenyddol niferus yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae hi’n athro yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe, ac mae hi’n Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac o’r  Academi Gymreig.

 

 

 

Cantores glasurol Gymreig, cyflwynwraig ac actores yw Shân Cothi a raddiodd mewn cerddoriaeth a drama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac sydd wedi cael ei anrhydeddu gyda chymrodoriaethau yn Aberystwyth a Llambedr Pont Steffan.  Mae hi wedi perfformio mewn lleoliadau o Stadiwm y Mileniwn i Hong Kong, mae wedi ennill gwobr BAFTA am ei chyfres deledu ei hunan, ac wedi action mewn drama deledu Gymraeg, Con Passionate, a enillodd amryw o wobrau yn ogystal â’r wobr gyntaf ymhlith y gwobrau Rose d’Or.

 

 

Cymraes sy’n gyfarwyddwr ffilmiau yw Sharon Maguire a brofodd ei llwyddiannau pennaf ar ôl cyfarwyddo Bridget Jones’ Diary. Astudiodd Saesneg a Drama ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac yna aeth ymlaen i ennill y cymhwyster  dysgu TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion).  Honnir iddi ddweud, “Mae hi bob amser yn torri’r garw mewn partïon pan fyddaf yng nghwmni’r mathau o bobl sydd wedi astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt, i frolio: ‘I Aberystwyth yr es i!’”

 

 

 

Fel y nodwyd yn ddiweddar yn Newyddion Aber, mae Dr Hannah Dee,  darlithydd Cyfrifiadureg yma yn Aberystwyth wedi ei henwi gan ‘Computer Weekly’ fel y ddegfed fenyw fwyaf dylanwadol mewn cyfrifiadura yn y DU. Ei meysydd ymchwil yw golwg gyfrifiadurol ar gyfer dadansoddi ymddygiad dynol, datgeliad cysgodion ac ymresymu ynglŷn â chysgodion, ac agweddau myfyrwyr tuag at  astudio cyfrifiaduraeth.