Rhwydweithio Cymdeithasol

Cyngor Cyffredinol

Mae safleoedd Rhwydweithio Cymdeithasol yn galluogi trafodaeth ar-lein, cyfathrebu cyffredinol, a'r gallu i rannu gwybodaeth am eich hun ac eraill yn gyflym a hawdd. Mewn sawl ffordd gall hyn fod yn fanteisiol i fyfyrwyr a staff yn bersonol ac yn academaidd.

Ond mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r risgiau a chymryd camau i'ch diogelu'ch hun a'ch gwybodaeth bersonol. Mae llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol yn y parth cyhoeddus ac nid yw hi bob amser yn bosibl gwybod beth sy'n cael ei weld, ei rannu neu'i archifo. Hyd yn oed os caiff deunydd ei bostio ar broffil neu grŵp preifat, mae hi dal yn bosibl i eraill ei gopïo a'i rannu. Nid oes unrhyw ddisgwyliad rhesymol y bydd negeseuon yn aros yn breifat ac na chânt eu pasio ymlaen i bobl eraill, yn anfwriadol neu fel arall. 

Mae gan ddeunydd a gyhoeddwyd ar-lein y potensial i fod ar gael yn gyhoeddus ac am gyfnod amhendant. Mae hi'n bwysig felly i reoli eich ôl troed digidol. Ni ddylech bostio unrhyw beth:

  • nad ydych am iddo ymddangos yn y parth cyhoeddus
  • na fyddech chi'n ei ddweud yn bersonol wrth unigolyn arall

Byddwch yn ofalus â'r wybodaeth yr ydych yn ei rhannu oherwydd y gallai arwain at sylw digroeso, cywilydd a gallai hyd yn oed gyfrannu at dwyll hunaniaeth Er eich budd eich hun, ni ddylech rannu unrhyw fanylion y byddwch chi'n difaru wedyn, e.e. cofiwch y gallai aelodau o'r teulu neu ddarpar gyflogwr eu  gweld. 

Dylech gymryd gofal ychwanegol os oes modd eich adnabod fel myfyriwr yn y Brifysgol. Dylech osgoi postio:

  • gwybodaeth gyfrinachol
  • manylion am gwynion/achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r Brifysgol
  • gwybodaeth bersonol am unigolyn arall
  • unrhyw beth o gyfrif ffug neu gyfrif sy'n defnyddio enw unigolyn arall
  • unrhyw beth sy'n anghyfreithlon, yn fygythiol, yn aflonyddu, yn gwahaniaethu, yn anweddus, yn ddifrïol neu'n elyniaethus
  • unrhyw beth a fydd yn cyfaddawdu diogelwch neu enw da'r Brifysgol neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â hi

Cofiwch, chi'n bersonol sy'n gyfrifol am eich geiriau a'ch gweithredoedd mewn amgylchedd ar-lein. Dylech arfer yr un safonau o ymddygiad ar-lein ag y disgwylir i chi eu harfer all-lein. Wrth anghytuno â barn eraill, gwnewch hynny yn briodol a chwrtais.  Fe'ch cynghorir i ystyried eich defnydd o iaith a ph'un ai yw unrhyw gynnwys yr ydych yn ei rannu ar safle rhwydweithio cymdeithasol yn rhywbeth yr hoffech i fyfyrwyr eraill, staff y Brifysgol neu bobl o’r tu allan i'r Brifysgol ei weld.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gymryd camau disgyblaethol os yw'n briodol ac mewn achosion eithafol gall difenwi arwain at gamau cyfreithiol. Dylech hefyd fod yn ymwybodol wrth ddefnyddio safleoedd megis adnoddau'r Gwasanaethau Gwybodaeth, fod Rheolau a Rheoliadau'r Gwasanaethau Gwybodaethpholisi Defnydd Derbyniol JANET yn dal i fod yn berthnasol.

Diweddarir y Rheoliadau hyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2021 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Gorffennaf 2023.