Negeseuon e-bost sbam

Weithiau mae defnyddwyr cyfrifiaduron Aberystwyth yn cael ebyst sy’n honni eu bod yn dod o ffynhonnell ddilys ac weithiau maen nhw’n ddilys, ond weithiau dydyn nhw ddim.

Mae’r erthygl hon yn rhoi manylion rhai o’r dulliau cyffredin o dwyllo ar y rhyngrwyd.

  1. E-bost sy'n honni ei fod yn dod o Microsoft / eich darparwr e-bost

    Anfonwyd e-bost sy'n honni ei bod o Microsoft yn dweud bod angen eich e-bost a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth i helpu gyda’r mudo e-bost. Nid yw’r negeseuon hyn yn dod o unrhyw adran ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ni fyddwn ni byth yn gofyn i chi ddatgelu manylion eich cyfrinair drwy’r ebost nac ar lafar o dan UNRHYW amgylchiadau. Peidiwch byth ac ymateb i geisiadau o’r fath. Os cewch chi unrhyw negeseuon fel hyn, anfonwch nhw ymlaen i gg@aber.ac.uk ac fe fyddwn ni’n rhwystro’r cyfeiriadau dychwelyd.

  2. Mae’n Ddydd Santes Ffolant (neu’ch pen-blwydd, neu’r Nadolig):

    Rych chi’n cael eGerdyn yn eich mewnflwch oddi wrth rywun (dyna braf) ond efallai y cewch chi fwy na hynny os agorwch chi fe! Fel arfer mae’n rhaid clicio i fynd i wefan a allai heintio’ch cyfrifiadur â feirws a rhoi’r data personol sydd yno, fel manylion banc neu gerdyn credyd, ar gael i droseddwyr.

    Peidiwch byth ag agor e-gerdyn os nad ydych yn adnabod enw llawn yr anfonwr (mae rhai troseddwyr yn defnyddio enw cyntaf cyffredin heb gyfenw o gwbl, gan obeithio eich twyllo i’w agor). Os ydych am sicrhau eich bod yn ddiogel, peidiwch ag agor e-Gardiau o gwbl!

  3. Mae trychineb wedi digwydd, ac wrth gwrs rydych yn awyddus i helpu:

    Pan fydd trychineb yn digwydd, fel daeargryn Haiti neu’r Tsiwnami yn Asia, mae llawer o bobl yn awyddus i roi arian i helpu, a gwaetha’r modd, mae rhai troseddwyr yn ceisio manteisio ar hynny. Maent yn anfon ebsyt a sefydlu gwefannau yn gofyn am roddion, ond mae’ch rhoddion yn mynd yn syth i’w pocedi. Yn waeth byth, rydych wedi rhoi manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd ac felly maen nhw’n gallu dwyn mwy byth o’ch cyfrif!

    Chwiliwch am y rhif elusen gofrestredig byddan nhw’n ei roi ac ewch i edrych ar www.charity-commission.gov.uk. Os yw’n ddilys, ewch i’w gwefan nhw yn uniongyrchol, yn hytrach na chlicio ar yr e-gyswllt yn yr ebost. 

  4. Rydych chi am gael gwaith i’ch helpu i gadw’r ddeupen ynghyd yn y Coleg:

    Rydych yn chwilio am swydd ar-lein ac yn sylwi ar hysbyseb neu’n cael ebost sy’n disgrifio swydd ddiddorol – efallai fod y disgrifiad swydd, logo’r cwmni a’r wefan yn edrych yn ddilys, ond pan gewch chi’r ffurflen gais mae’n gofyn am ddigon o wybodaeth i allu ‘dwyn’ eich hunaniaeth a benthyg arian yn eich enw chi.

    Chwiliwch ar y we i weld a ydy’r cwmni neu’r corff recriwtio yn ddilys, gan chwilio am wybodaeth annibynnol sy’n cadarnhau bod y cwmni yn un go iawn. Peidiwch byth ag anfon arian i dalu am gostau sefydlu eich swydd newydd honedig.

  5. Manteisio ar y cyfraddau llog gorau i’ch cynilion:

    Mae cyfraddau llog yn anobeithiol y dyddiau hyn, ond byddwch yn wyliadwrus ynghylch ebyst a hysbysebion sy’n addo cyfleoedd anhygoel i fuddsoddi gydag adenillion uchel. Os ymatebwch i’r “cynigion gwych” hyn, yn ogystal â rhoi arian i’r troseddwyr, bydd y wybodaeth bersonol a roddwch er mwyn sefydlu’r ‘cyfrif’ yn golygu’ch bod yn agored i dwyll hunaniaeth hefyd.

    Os yw’n edrych yn rhy dda i fod yn wir, y tebyg yw ei bod hi.

  6. Sicrhau’ch bod yn gallu defnyddio’ch cyfrif ebost:

    Cewch neges oddi wrth rywun yn y brifysgol - “The Support Team (ABERYSTWYTH UNIVERSITY)” neu “The Web Team” neu “The Help Desk (Aberystwyth University)” neu rywbeth felly; ac mae’n honni eu bod yn gosod sustem weini ebyst newydd, neu efallai’ch bod wedi mynd y tu hwnt i’ch cwota. Mae’n awgrymu os nad ydych yn ateb sawl cwestiwn personol na fyddwch chi, ysywaeth, yn cael defnyddio’ch ebost bellach.

    Nid yw’r negeseuon hyn yn dod o unrhyw adran ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ni fyddwn ni byth yn gofyn i chi ddatgelu manylion eich cyfrinair drwy’r ebost nac ar lafar o dan UNRHYW amgylchiadau. Peidiwch byth ag ymateb i geisiadau o’r fath, os cewch chi unrhyw negeseuon fel hyn, anfonwch nhw ymlaen i gg@aber.ac.uk ac fe fyddwn ni’n rhwystro’r cyfeiriadau dychwelyd.

  7. Cadw’ch manylion banc yn gyfredol:

    Rydych yn cael ebost sy’n edrych fel petai’n dod o’ch banc neu’ch cwmni cerdyn credyd yn gofyn i chi wirio neu ailosod y gosodiadau diogelwch i’ch cyfrif. Os ymatebwch drwy glicio ar y cyswllt â’r hyn sy’n edrych fel gwefan go iawn, mae’n bosib y byddwch yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i droseddwyr.    

    Cysylltwch â’r cwmni y mae’r ebost yn honni iddo ddod oddi wrtho drwy ddefnyddio rhif ffôn rydych yn gwybod ei fod yn ddilys, yn hytrach na defnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr ebost neu ar y wefan.

Cofiwch: “Byddwch ddrwgdybus, byddwch ddiogel!”

Os oes gennych amheuon ynghylch unrhyw ebost, cewch ei anfon ymlaen i gg@aber.ac.uk  ac fe fyddan nhw’n ei wirio i chi.