Cymdeithas sy'n newid – Cyfraith sy’n newid?

Aelodau o bwyllgor trefnu’r gynhadledd (Chwith i’r Dde) (cefn) Manon Chirgwin, Megan Talbot, Pierre Wiltshere, Linda Thompson, (blaen) Engobo Emeseh, Lloyd Hole, Debbie Kobani a Gareth Evans

Aelodau o bwyllgor trefnu’r gynhadledd (Chwith i’r Dde) (cefn) Manon Chirgwin, Megan Talbot, Pierre Wiltshere, Linda Thompson, (blaen) Engobo Emeseh, Lloyd Hole, Debbie Kobani a Gareth Evans

17 Mawrth 2016

Mae cymdeithas yn newid yn gynt heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn hanes dyn, ond sut yn y gyfraith yn ymateb i'r newid hwn?

Dyma yw thema cynhadledd ôl-raddedig dau ddiwrnod sy’n cael ei chynnal gan Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth heddiw a fory, 17eg a’r 18fed o Fawrth.

A yw'r gyfraith yn sbarduno newid neu ymateb i gymdeithas sy'n newid? Pa mor berthnasol yw'r gyfraith hyd yn hyn ac mae i fyny i'r funud? A yw'r gyfraith yn gallu adlewyrchu anghenion cyfnewidiol cymdeithas?

Dywedodd Engobo Emeseh, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg: "Mae’r gynhadledd yn gyfle i’r gymuned ymchwil ystyried a thrafod y materion hyn mewn modd beirniadol. Mae’r gynhadledd wedi'i thargedu'n benodol at fyfyrwyr ôl-raddedig er mwyn iddynt gyfrannu tuag at ddatblygu, cryfhau a gwella gweithlu ymchwil i’r dyfodol, drwy roi cyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig drefnu digwyddiad o'r math hwn, a datblygu hyder wrth gyflwyno eu gwaith ymchwil, profi syniadau, a rhwydweithio.”

Bydd cyfranogwyr hefyd yn clywed am yr ymchwil arloesol sy'n cael ei gynnal yn yr Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yn Aberystwyth.

Ychwanegodd Emeseh: "Mae ein cymdeithas yn newid yn barhaus ac mae ei rhyngwyneb â'r gyfraith yn codi cwestiynau heriol mew lawer o feysydd astudio: o droseddau ar y rhyngrwyd i gyfunrywioldeb; o newid yn yr hinsawdd i ddatblygu cynaliadwy, mewnfudo a mwy. Wrth gwblhau ein nod, rydym yn darparu gwahanol drafodaethau panel ar ddau ddiwrnod y gynhadledd, ynghyd â chyflwyniadau gan arbenigwyr yn eu maes/disgyblaeth a thrwy hynny hwyluso fforwm fydd yn ysgogi”.

Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad gan y siaradwr gwadd Syr Paul Silk, cyn-glerc yn Nhŷ'r Cyffredin a chadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru 2011-2014.

Mae siaradwyr eraill yn cynnwys yr Athro John Williams, sydd ar y cyd gyda'r Athro Alan Clarke a Ms Sarah Wydall wedi derbyn grant ymchwil o £890,000 gan Gronfa’r Loteri fel rhan o brosiect ymchwil £1.3m ar gyfiawnder a cham-drin pobl, yr Athro Ryszard Piotrowicz, a fydd yn trafod cyfraith ryngwladol mewn perthynas â mewnfudo a mudo, a Dr Engobo Emeseh ar newid hinsawdd a Cop21 Paris 2015.

Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys sesiynau sgiliau myfyriwr ôl-raddedig gan Dr Ian Archer a Hannah Payne.

Cynhelir y gynhadledd yn Adeilad Elystan Morgan, ar Gampws Llanbadarn ar ddydd Iau 17eg a dydd Gwener 18fed o Fawrth.

Ceir manylion y rhaglen lawn ar lein yma.

AU10316