Ail Gynhadledd Lwyddiannus!

06 Medi 2017

Ym mis Mawrth cynhaliodd Cynhadledd Uwchraddedig Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth ail gynhadledd lwyddiannus ar gampws Llanbadarn.

Ychydig cyn y Pasg, cynhaliwyd yr ail gynhadledd o dan y teitl ‘The Interwoven Relationship of Law and Media’, ein nod oedd archwilio’r berthynas rhwng y gyfraith a’r cyfryngau

Bu’r gynhadledd yn gyfle i glywed ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth ac mor bell i ffwrdd â Phrifysgol Caeredin yn trafod eu meysydd ymchwil. Cafwyd cyflwyniadau ar destunau megis: cyfraith eiddo a’r cyfryngau, gwrachod Pendleton, troseddu plant yn y cyfryngau, hunanamddiffyn rhyngwladol a thrafodaeth ynghylch sut y byddai Lili Elbe (The Danish Girl) yn cael ei thrin o dan ein cyfreithiau ni heddiw. Roedd yr holl gyflwyniadau yn hynod ddiddorol ac addysgiadol, a chafwyd trafodaethau craff a diddorol dros ben a fu’n gyfle i’r holl gyflwynwyr ddatblygu eu syniadau ymchwil a’u hyder wrth roi cyflwyniadau cyhoeddus.

Fe wnaethom hefyd groesawu nifer o siaradwyr gwadd diddorol o Ysgol y Gyfraith a thu hwnt. Rhoddodd myfyrwyr o’r Veterans Legal Link gyflwyniad hynod ddiddorol ac amserol ar Marine A a sut y mae’r cyfryngau yn chwarae rhan mewn sefyllfaoedd o’r fath, ac fe wnaeth cyflwyniad Dr Uta Kohl ar Newyddion Ffug ysgogi trafodaethau diddorol dros ben ynglŷn â defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer newyddion a sut y mae dulliau lledaenu gwybodaeth wedi newid.

Roedd y pwyllgor yn falch o groesawu Dr Stefan Machura o Brifysgol Bangor i Aberystwyth i drafod ‘The Sense of Justice’, yn benodol sut y mae cyfiawnder dosbarthol a chyfiawnder gweithdrefnol yn cael eu portreadu mewn ffilmiau.

Mae llawer o gynadleddwyr wedi dweud pa mor groesawgar yw’r gynhadledd; mor ddelfrydol yw hi fel cynhadledd gyntaf i feithrin hyder ymchwilwyr; mor frwdfrydig yw’r gynulleidfa; a pha mor ddefnyddiol yw’r trafodaethau.

Gan edrych ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd nesaf!