Trwy fy Lens

Beth mae Y Gyfraith a Throseddeg yn Aber yn ei olygu i mi?

I gystadlu:

*Cyflwynwch ffotograff sydd yn cyfleu un o’r categorïau.

  1. Beth mae’r Gyfraith yn Aber yn ei olygu i mi?
  2. Beth mae Troseddeg yn Aber yn ei olygu i mi?
  3. Beth mae’r Gyfraith a Throseddeg yn Aber yn ei olygu i mi?

*Gallwch gyflwyno hyd at un llun jpeg ar gyfer pob categori.

Gwobrau:

1af: ar gyfer pob categori - £200 ar eich cerdyn Aber neu thalebau Canolfan y Celfyddydau

2il: gwobr fesul categori o £100 ar eich cerdyn Aber neu thalebau Canolfan y Celfyddydau

 

Dyddiad Cau : 11 Mawrth 2019

Seremoni Wobrwyo: 22 Mawrth 2019

Anfonwch eich cynigion i ccgc@aber.ac.uk

Termau

1. Dylai pob cais i’r gystadleuaeth gynnwys gwaith y ffotograffydd yn unig, ac ni ddylai dorri hawliau eraill.

2. Bydd yr ymgeiswyr yn dal hawlfraint dros y ffotograffau sydd yn cael eu cyflwyno. Trwy gystadlu bydd pob ymgeisydd yn rhoi’r hawl i Brifysgol Aberystwyth i gyhoeddi a dangos y ffotograffau ar ei gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, a mewn print a deunydd marchnata electroneg, am byth cyhyd â bod cydnabyddiaeth o hawlfraint y ffotograffydd.