Ysgoloriaeth i ddysgwyr o Batagonia 2019

Myfyrwyr o Batagonia ar y Cwrs Haf yn 2019

Myfyrwyr o Batagonia ar y Cwrs Haf yn 2019

05 Gorffennaf 2019

Bydd Judith Ellis, Sybil Hughes a Florencia Zaldegui o Batagonia yn treulio mis yn astudio cyrsiau dwys ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, sef dau o ddarparwyr y Ganolfan Genedlaethol. Fe weinyddir yr ysgoloriaethau mewn cydweithrediad â’r Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Cymru-Ariannin.

Bydd Judith yn dilyn cwrs Canolradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio yn ysgol Gymraeg Ysgol y Cwm, Trevelin yn nhalaith Chubut, Patagonia ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at gael defnyddio mwy o’i Chymraeg yn y gwaith yn dilyn y cwrs haf.

Meddai Judith, ‘Dwi’n edrych ymlaen at wella fy Nghymraeg. Dwi eisiau dod i adnabod y wlad lle roedd fy nheulu yn arfer byw a dod i wybod mwy am ei hanes hefyd. Wrth ddod ar y cwrs haf yn Aberystwyth dwi’n gobeithio gallu cyfarfod â phobl o Gymru a dysgu mwy o Gymraeg er mwyn medru defnyddio’r iaith yn yr ysgol yn Nhrevelin. Dwi’n edrych ymlaen at ddweud yr hanes wrth blant bach Ysgol y Cwm lle dwi’n dysgu fel athrawes.’  

Bydd Sybil Hughes hefyd yn treulio amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Sibyl yn gweithio yn Ysgol Feithrin Gymraeg y Gaiman, sydd hefyd yn nhalaith Chubut. Mae ganddi ddiddordeb mewn cyfieithu, felly yn ystod ei chyfnod yng Nghymru bydd hi’n treulio amser ar y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn y Brifysgol.

Ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd Florencia Zaldegui yn mynychu’r cwrs haf. Yn wreiddiol o dalaith Rio Negro, ar gyrion gogledd y Wladfa, mae hi erbyn hyn yn athrawes chwaraeon yn y Gaiman. Ers symud i’r Gaiman tua pum mlynedd yn ôl mae hi wedi mwynhau dysgu’r iaith. Enillodd hi ysgoloriaeth yr Urdd y llynedd, a bu’n byw yng Nghymru am fis ac yn gwirfoddoli gyda’r Urdd.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“’Dyn ni’n llongyfarch y tair ar eu llwyddiant, ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yma i Gymru dros yr haf. ’Dyn ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia. ”