Cerddwyr Cylch Teifi

23 Ionawr 2017

Ar ein taith fis Ionawr buom yn ardal Carreg Wen a Llechryd dan arweiniad Dyfed a Siân Elis-Gruffydd. Gan ddechrau wrth Gapel y Bedyddwyr Cilfowyr, cerddon ni draw i bentref Carreg-wen i weld yr eglwys, ac wedyn i lawr y lôn i hen eglwys Maenordeifi ac wedyn Pont Llechryd ac yn ôl i'r man cychwyn. Fel y disgwylid, cawsom hanesion diddorol am y capel, yr eglwysi, y meini adeiladu a hynt Afon Teifi a dyffryn Teifi. Bu'n daith ddifyr iawn, ar lonydd pert yr ardal mewn tywydd da, a digon o gloncian wrth gerdded.