Cynllun Hepgor Ffioedd
Er mis Medi 2014, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi diwygio'r Cynllun Hepgor Ffioedd Israddedig Rhan-amser. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â chymhwyster myfyrwyr newydd (h.y. myfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais am y Cynllun Hepgor Ffioedd cyn mis Medi 2014) yng ngoleuni trefniadau cyllido newydd ar gyfer astudio rhan-amser gan Lywodraeth Cymru. Mae'r trefniadau newydd yn cynnwys cyflwyno system fenthyciadau ar gyfer newydd-ddyfodiaid rhan-amser newydd a grant ffioedd rhan-amser â phrawf modd.