Atgyfnerthu’ch Gradd canys Israddedigion ac Uwchraddedigion

 

Mae’r Adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle dysgu unigryw ichi, a all atgyfnerthu eich gradd a’ch cynorthwyo i sefyll allan mewn tyrfa. 

Beth yw Dysgu Gydol Oes? 

Mae Dysgu Gydol Oes yn cynnig modiwlau addysg uwch, byr wedi’u hachredu mewn amrywiaeth da o bynciau, yn cynnwys Celf, Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol, Ecoleg, Hanes, Seicoleg, a Sgiliau Proffesiynol. 

Beth allwn ni ei wneud i chi? 

Ochr yn ochr â rhaglen eich gradd, gallwch gymryd un modiwl gyda ni bob tymor. Mae hyn wedi’i gynnwys yn eich ffioedd, felly does dim costau ychwanegol i chi.

Beth yw’r manteision? 

  • Personoli eich CV a gadael y Brifysgol gyda thrysorfa o sgiliau newydd 
  • Dysgu am fod hynny’n hwyl! Ewch ar drywydd pwnc sydd o ddiddordeb mawr ichi neu rhowch dro ar rhywbeth newydd 
  • Cyfarfod a chymdeithasu ag amrywiaeth eang o bobl 

Sut mae ein modiwlau’n cael eu darparu? 

Mae ein modiwlau’n cael eu dysgu naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Bydd y cyrsiau yn cael eu darparu drwy’r Llwyfan Dysgu Ar-lein: Blackboard. Rydym hefyd yn defnyddio Microsoft Teams neu Zoom i gyflwyno’r elfennau byw o’r cyrsiau ar-lein hyn.Mae’r rhan fwyaf o’r modiwlau ar-lein yn sesiynau sy’n cael eu dilyn gan y myfyrwyr yn ôl eu pwysau ac fel arfer mae’r sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu hamserlennu gyda’r nos. Cyrsiau penwythnos dwys mewn lleoliadau eraill yng Nghymru yw rhai o’n modiwlau. 

Mae rhestr o’r holl gyrsiau rydym yn eu rhedeg yn ystod y flwyddyn academaidd hon ar gael yma

Atgyfnerthu’ch Gradd Dysgu Gydol Oes Cym (fideo)

Sut mae cofrestru ar eich cwrs

  • Dewch o hyd i’ch cwrs
  • Nodwch deitl y cwrs
  • Ewch i Siop Ar-lein Dysgu Gydol Oes (hyd yn oed os yw’r cwrs ar gael am ddim bydd angen i chi archebu’ch cwrs drwy’r siop ar-lein er mwyn sicrhau’ch lle ar y cwrs.)
  • Yn y blwch chwilio ar ochr chwith y sgrin, dechreuwch chwilio am deitl eich cwrs a phan fydd yn ymddangos, cliciwch arno.
  • Os yw’r cwrs ar gael am ddim fe fydd yn dangos dim ffi wrth ochr y botwm Archebu Cwrs.
  • Cliciwch ar y botwm Archebu Cwrs ac fe ewch i’r sgrin derfynol lle y byddwch yn cwblhau’r broses. Dangosir y ffi fel £0.
  • Ar ôl i chi sicrhau lle ar eich cwrs drwy’r siop ar-lein, bydd y swyddfa wedyn yn cadarnhau’ch bod wedi cofrestru ac yn anfon mwy o fanylion am y cwrs atoch.