Gwobr Tiwtor y Flwyddyn
Ychydig iawn o amser fydd ei angen arnoch i gwblhau hwn. Enwebwch diwtor neu diwtoriaid ar gyfer Gwobr Tiwtor Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn 2019-2020.
Dim ond myfyrwyr Dysgu Gydol Oes sy’n medru gwneud enwebiad.
Ydy’ch tiwtor yn gwneud dysgu yn brofiad cyffrous ac ysbrydoledig? Ydy e neu hi yn dangos ymroddiad a brwdfrydedd at addysgu? Os ydyn nhw dyma eich cyfle i ddangos eich gwerthfawrogiad drwy ei enwebu e neu hi fel Tiwtor y Flwyddyn.
Dyddiad cau am enwebiadau 2019-2020 yw 31ain Awst 2020.
Cyflwynir y wobr i’r enillwyr yn Seremoni Wobrwyo Dysgu Gydol Oes yn Hydref 2020.