Pwyllgor Ymgynghorol Staff /Myfyrwyr
Y Pwyllgor Staff-Myfyrwyr
Mae Pwyllgor Staff-Myfyrwyr yr adran Dysgu Gydol Oes yn rhan hanfodol o’r Ysgol ac mae’n ddull ffurfiol ar gyfer cyfathrebu rhwng y myfyrwyr a’r Ysgol. Ar y Pwyllgor hwn cynrychiolir myfyrwyr y gwahanol ddisgyblaethau: Y Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Modern y Dyniaethau a Chelfyddyd.
Mae Pwyllgor Staff-Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes yn fforwm pwysig i drafod unrhyw faterion a phryderon sy’n codi. Er nad oes gan y Pwyllgor rymoedd ffurfiol i lunio polisïau, caiff ei swyddogaeth ymgynghorol ei chymryd o ddifrif gan yr Ysgol ac anogir yr holl fyfyrwyr i gymryd rhan. Yn ogystal, mae gan y Pwyllgor swyddogaeth gymdeithasol a gall gymryd yr awenau wrth gynnig a threfnu digwyddiadau cymdeithasol.
Pwrpas y Pwyllgor yw trafod cynnwys a threfniadaeth rhaglenni academaidd, trefnu rhaglenni, trefniadau’r Ysgol, materion yn ymwneud â’r Amserlen, adnoddau, cyfathrebu a digwyddiadau cymdeithasol. Mae hefyd yn ystyried materion a godir gan fyfyrwyr yn yr Ysgol ynglŷn â’r holl agweddau ar brofiad myfyrwyr.
Os oes gennych chi farn i’w lleisio, a chithau eisiau i bobl wrando arnoch, cysylltwch ag un o gynrychiolwyr y myfyrwyr.
Peidiwch â phoeni os yw’r mater yn ymddangos yn ddibwys, neu os yw’n dda (neu’n ddrwg); mae siarad â chynrychiolydd y myfyrwyr yn ffordd o leisio’ch barn, ac yn ddull mwy personol o adrodd yn ôl na’r ‘ffurflen binc’ yr ydych yn ei llenwi ar ddiwedd pob cwrs.
Aelodau
Myfyrwyr |
||
Glenda Davies |
Celf | gendadavies111@gmail.com |
Hillary Jones |
Celf | hilandhow@tiscali.co.uk |
Danny Clues |
Dyniaethau | dannyclues@btopenworld.com |
Moya Neale |
Ieithoedd |
|
Jennie Roberts |
Ieithoedd |
|
Staff |
||
Alison Pierse |
Cydlynydd, Celfyddyd a Dylunio |
|
Bethany Freeman |
Ysgrifenyddes, Dysgu Gydol Oes/PSM |
|
Liz Jones |
Cydlynydd, Dyniaethau | lzj@aber.ac.uk |
Paula Hughes |
Cydlynydd Gwyddoniaeth | |
Antonio Barriga Rubio |
Cadeirydd |
Mae Cynrychiolwyr y Myfyrwyr yn gwneud pob ymdrech i gasglu adborth eu cyd-fyfyrwyr. Dyma rai cyfeiriadau i hwyluso’r broses gyfathrebu:
Cyfeiriad Post:
Pwyllgor Staff-Myfyrwyr:
Dysgu Gydol Oes YADGO,
P5,
Campws Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion, SY23 3UX
E-bost: