Safle'n cael ei adeiladu

Beth yw'r UKPSF?

Cafodd Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) ar gyfer Addysgu a Chynorthwyo Dysgu mewn Addysg Uwch ei gynnig yn wreiddiol yn y Papur Gwyn The Future of Higher Education (2003), ac fe’i datblygwyd mewn ymgynghoriad ag Universities UK,  SCOP a chyrff cyllido AU y Deyrnas Unedig. Ymgynghorwyd yn eang arno a’i adolygu yn 2011.

Mae ansawdd yr addysgu yn ddangosydd pwysig o lwyddiant myfyrwyr ac mae’r fframwaith yn annog staff i fynd ati’n ysgolheigaidd a phroffesiynol wrth addysgu a gwneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â dysgu. Mae’r UKPSF yn rhoi strwythur a meincnod i staff gynllunio, cofnodi ac adfyfyrio ar eu gweithgarwch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae’r UKPSF yn uniongyrchol berthnasol i staff academaidd, ond bydd staff eraill sy’n cynorthwyo dysgu myfyrwyr hefyd yn gallu darparu tystiolaeth o ysgolheictod Disgrifydd 1 (Cymrawd Cyswllt) ar y lleiaf.

O ran Disgrifyddion 3 a 4, mae’r UKPSF hefyd yn berthnasol i staff uwch yn y Brifysgol, yn eu rolau yn arweinwyr rhaglenni, yn fentoriaid ar staff eraill, ac yn rheolwyr strategol.

Mae Cynllun Strategol Aberystwyth-Bangor yn amlinellu’r amcanion allweddol ar gyfer creu amgylchedd dysgu i fyfyrwyr sy’n hyblyg ac o safon uchel, ac mae wedi ymrwymo i gysoni amcanion a gwaith y prifysgolion ag amcanion yr UKPSF. Mae hyn yn cynnwys parhau â dull sydd wedi’i hen sefydlu o ran datblygiad proffesiynol yr holl staff sy’n ymwneud ag addysgu a chynorthwyo dysgu, yn ogystal â pharhau i gydnabod yr effaith y mae hyn ei gael ar arloesi a phrofiad myfyrwyr.

Mae’r UKPSF yn darparu rhywfaint o gysondeb ar draws y sector AU ac mae’n gynyddol yn rhan annatod o strwythurau Adnoddau Dynol ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor a ledled y sector.

Er bod Cynllun Cydnabyddiaeth Aberystwyth-Bangor yn sicrhau cyflawni’r UKPSF, mae digon o hyblygrwydd ynddo i gwmpasu ystod eang o weithgarwch ysgolheigaidd datblygiadol, gan gynnwys cyfleoedd cydweithio, eich rôl fel tiwtor, ymgorffori gwaith ymchwil yn eich addysgu, addysgu traws-golegol, neu raglenni achrededig megis rhaglenni TUAAU. Mae’n eich annog i gymryd yr amser i ystyried eich gyrfa ddiweddar, eich gweithgaredd ysgolheigaidd ar hyn o bryd, eich datblygiad proffesiynol parhaus, ac i agor eich ymarfer i sylwadau ac adolygu gan gymheiriaid.

Beth yw'r Safonau yn yr UKPSF?

Mae’r UKPSF yn rhoi strwythur a meincnod i staff fedru cynllunio, cofnodi ac adfyfyrio ar weithgareddau DPP. Mae’n gwneud hyn drwy roi disgrifiad cyffredinol o brif ddimensiynau rolau addysgu a chynorthwyo dysgu mewn addysg uwch. Mae wedi’i ysgrifennu o safbwynt yr ymarferydd ac mae’n amlinellu fframwaith cenedlaethol cyffredin i gydnabod a meincnodi’n gynhwysfawr rolau addysgu a rolau cynorthwyo dysgu mewn Addysg Uwch.

Mae dwy ran i’r UKPSF:

1)  Dimensiynau Ymarfer: Mae’r rhain yn gasgliad o ddatganiadau sy’n amlinellu’r canlynol:

  • Meysydd Gweithgarwch sydd wedi’u cyflawni gan athrawon a chynorthwywyr dysgu mewn Addysg Uwch
  • Y Wybodaeth Graidd sydd ei hangen i weithredu’r gweithgareddau hynny ar y lefel briodol
  • Gwerthoedd Proffesiynol y dylai person sy’n cyflawni’r gweithgareddau hynny eu coleddu a’u harddangos

 

2)  Y Disgrifyddion:

Mae’r rhain yn gyfres o ddatganiadau sy’n amlinellu nodweddion allweddol person sydd â thystiolaeth o bedwar categori eang yn ymwneud â rolau nodweddiadol addysgu a chynorthwyo dysgu mewn Addysg Uwch (D1-D4).

 

Beth yw pwrpas yr UKPSF?

Diben canolog UKPSF yw helpu’r rheiny sy’n ceisio gwella profiad dysgu eu myfyrwyr trwy wella ansawdd eu haddysgu a’r cynorthwyo dysgu. Mae amrywiaeth eang o ddefnyddiau i’r Fframwaith, ond gellid ei ddefnyddio, er enghraifft, ar gyfer y canlynol:

  • Hybu pa mor broffesiynol yw addysgu a chymorth dysgu yn y sector Addysg Uwch;
  • Meithrin dulliau creadigol ac addysgol o ddysgu ac addysgu;
  • Galluogi staff AU i ennill cydnabyddiaeth a gwobr am ddatblygu eu galluoedd fel athrawon a chynorthwywyr dysgu;
  • Hwyluso a chefnogi’r gwaith cychwynnol a pharhaus o gynllunio a darparu rhaglenni a gweithgareddau datblygu addysg;
  • Dangos i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill y proffesiynoldeb y mae staff a sefydliadau yn ei ddwyn i addysgu a chynorthwyo dysgu myfyrwyr;
  • Cefnogi staff uwch sydd am:
  • ddatblygu polisïau a systemau ar gyfer cydnabod a gwobrwyo staff addysgu a chynorthwyo dysgu
  •  hyrwyddo diwylliant cryf o gymorth dysgu ac addysgu.

 

Mae’r UKPSF wedi’i gynllunio i fod yn berthnasol i bob agwedd ar addysgu a chymorth dysgu. Os oes gennych rôl sylweddol yn addysg myfyrwyr neu staff, bydd yn berthnasol i chi.

Yn dibynnu ar eich rôl benodol, gallwch ddefnyddio’r UKPSF i ddod yn Gymrawd Cyswllt, Cymrawd, Uwch Gymrawd neu Brif Gymrawd. Bydd hyn yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol i chi ac, yn gynyddol, cydnabyddiaeth ryngwladol fel addysgwr addysg uwch.  Darllenwch y disgrifyddion (D1-D4) i weld pa un fyddai’n briodol i chi. Er bod pob categori cymrodoriaeth, mewn egwyddor,  yn cwmpasu’r un o’i flaen, nid oes rhaid i chi o reidrwydd ddechrau fel Cymrawd Cyswllt a gweithio’ch ffordd ymlaen drwy Gymrawd, Uwch Gymrawd a Phrif Gymrawd. Gallwch ennill cydnabyddiaeth sy’n briodol i’ch rôl bresennol a’ch profiad diweddar.

Gallwch ddefnyddio’r UKPSF i gynllunio ac arwain eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ym maes addysgu a chynorthwyo dysgu. Mae yna ddilyniant naturiol drwy’r UKPSF wrth i gwmpas eich rôl addysgu / cynorthwyo dysgu ehangu a datblygu.