Parti Nadolig Mathsoc

09 Rhagfyr 2014

Mae’r Parti Nadolig yn noson mae’r Gymdeithas Fathemateg, neu MathsSoc, yn edrych ymlaen ati bob blwyddyn. Mae’n gyfle i fyfyrwyr Mathemateg a’u darlithwyr wisgo i fyny (mewn hetiau ceirw ac ati), mynd am swper ac ymddwyn yn soffistigedig am noson. Eleni, cynhaliwyd ein cinio Nadolig ym mwyty’r Consti (ar ben Craig Glais), yr un fath â’r llynedd. Roedd wir yn wych gweld cymaint o bobl yno. Rydym bellach wedi dechrau traddodiad newydd o gael Santa Cudd, a oedd yn llwyddiant mawr i bawb gymerodd ran! Mae’r hen draddodiad o gael araith gan ein Llywydd yn parhau. Eleni roedd araith Mr Ryan Myles yn cynnwys adolygiad o’r flwyddyn aeth heibio a chrynodeb o gynlluniau’r gymdeithas am y flwyddyn sydd i ddod (yn ogystal â jôcs ofnadwy). Cafwyd noson hwyliog iawn, ac rydym fel cymdeithas yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau’r flwyddyn nesaf.