Achrediad Graddau

12 Ionawr 2015

Mae Rhaglen Achrediadau’r Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA) yn achredu rhaglenni gradd prifysgolion lle bydd y graddedigion i gyd yn cyrraedd y gofynion addysgiadol ar gyfer disgrifiad y Mathemategydd Siartredig (CMath).

Mae’r cynlluniau gradd isod wedi cael eu hachrediad wedi’u hadnewyddu gan yr IMA:

MMath (Anrhydedd) Mathemateg
BSc (Anrhydedd) Mathemateg
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Gymhwysol a Mathemateg Bur
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Gymhwysol ac Ystadegaeth
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Bur ac Ystadegaeth
BSc (Anrhydedd) Mathemateg gydag Economeg
BSc (Anrhydedd) Mathemateg gyda Rheolaeth a Busnes
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Ariannol
BSc (Anrhydedd) Mathemateg gyda Chyfrifeg a Chyllid
BSc (Anrhydedd) Mathemateg gydag Addysg
BSc (Anrhydedd) Mathemateg a Ffiseg

Bydd pob myfyriwr sy’n dechrau gradd rhwng 2008 a 2019 yn cael budd o’r achrediad.

Cysylltwch â’r tiwtor derbyn, Dr Gwion Evans, am fwy o wybodaeth.