Diwrnod Pai

12 Mawrth 2015

Roedd dydd Sadwrn diwethaf, 3/14/15 (yn y system ddyddio Americanaidd), yn ddiwrnod pai arbennig iawn!  Mae’r dyddiad yn cyfateb i bum digid cyntaf pai. Cyfrannodd Dr Tudur Davies, darlithydd cyfrwng Cymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg yn yr Adran Fathemateg, erthygl i wefan BBC Cymru Fyw yn son am y diwrnod. Wyddoch chi mai’r Mathemategydd Cymreig, William Jones, oedd y cyntaf i ddefnyddio’r llythyren Roegaidd π ar gyfer 3.14159...?