Gwobr Euromech

03 Awst 2015

Rydym yn llongyfarch y fyfyrwraig PhD Monika Perkowska, sydd wedi derbyn Gwobr Ymchwilydd Ifanc am y cyflwyniad gorau gan fyfyriwr yn y 9fed Gynhadledd Ewropeaidd ar Fecaneg Solidau yn ddiweddar. Cyflwynodd waith o dan y teitl Particle Velocity Based Universal Hydrofracturing Algorithm for Non-Newtonian Fluids, sy’n rhan o’i gwaith doethurol yn y prosiect HYDROFRAC.