Swydd yn Princeton i Christian Arenz

13 Mai 2016

Enillodd Christian Ysgoloriaeth Datblygu Gyrfa Ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013, a dechrau ei astudiaethau PhD dan oruchwyliaeth Dr Daniel Burgarth yn y Grŵp Strwythurau Cwantwm, Gwybodaeth a Rheolaeth yn yr Adran Fathemateg, sy’n gweithio ym maes systemau cwantwm a’u hymwneud â’u hamgylchedd, ac yn enwedig ym maes peirianneg rheolaeth gwantwm, maes sy’n prysur ddatblygu.

Roedd gwaith ymchwil Christian yn canolbwyntio ar ddadansoddi rheolaeth ar systemau cwantwm agored gan ddefnyddio dulliau damcaniaethau rheoli. Bydd Christian yn parhau gyda ei yrfa ym Mhrifysgol Princeton, ac yn dechrau ar ei swydd fel Cymrawd Ôl-ddoethurol ar y 1af o Fehefin. Bydd ei waith yn ymchwilio i strategaethau ar gyfer defnyddio deinameg swnllyd fel adnodd i reoli systemau cwantwm, yn ogystal ag astudio cyfrifiannu cwantwm, maes sy’n prysur dyfu.