Croeso i Dr Jukka Kiukas

04 Gorffennaf 2016

Mae’r Adran Fathemateg yn croesawu Dr Jukka Kiukas fel darlithydd newydd mewn Ystadegaeth. Mae diddordebau ymchwil Jukka mewn theori gwybodaeth cwantwm a thebygoleg cwantwm ac ystadegaeth, ac mae wedi bod yn gweithio ar brosiect Daniel Burgarth sydd wedi ei ariannu gan grant EPSRC ar nodweddu dyfeisiau cwantwm yma yn Aberystwyth dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn flaenorol, fe gwblhaodd ei ddoethuriaeth ar Sylfeini Mathemateol Mecaneg Cwantwm yn Turku, y Ffindir, cyn cwblhau lleoliadau ôl-ddoethurol yn Hannover, Munich a Nottingham. Gall myfyrwyr yn y drydedd flwyddyn ddisgwyl ei weld yn y modiwl MA36510 Linear Statistical Models fis Hydref.