Gwobr flynyddol Walters yn cael ei dyfarnu am y tro cyntaf

Dau o enillwyr Gwobr Ken Walters yn derbyn eu gwobrau, a gyflwynwyd gan yr Athro Ken Walters a Golygyddion Gweithredol presennol y Journal of Non-Newtonian Fluid Mechanics. O’r chwith i’r dde: yr Athro Ian Frigaard (Golygydd Gweithredol JNNFM), yr Athro Stephanie Dungan a’r Athro Ronald Phillips (enillwyr cyntaf Gwobr Ken Walters), yr Athro Ken Walters (Golygydd Sefydlol JNNFM) a’r Athro Fernando Pinho (Golygydd Gweithredol JNNFM). Llun: Mats Stading

Dau o enillwyr Gwobr Ken Walters yn derbyn eu gwobrau, a gyflwynwyd gan yr Athro Ken Walters a Golygyddion Gweithredol presennol y Journal of Non-Newtonian Fluid Mechanics. O’r chwith i’r dde: yr Athro Ian Frigaard (Golygydd Gweithredol JNNFM), yr Athro Stephanie Dungan a’r Athro Ronald Phillips (enillwyr cyntaf Gwobr Ken Walters), yr Athro Ken Walters (Golygydd Sefydlol JNNFM) a’r Athro Fernando Pinho (Golygydd Gweithredol JNNFM). Llun: Mats Stading

26 Mai 2017

Mae gwobr academaidd newydd wedi cael ei chyflwyno gan y cyhoeddwr blaenllaw Elsevier i anrhydeddu academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth.

Mae Gwobr Walters yn cydnabod cyfraniad yr Athro Ken Walters MSc PhD DSc (Cymru) FLSW FRS, Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

Lansiwyd y wobr i nodi 40 mlwyddiant y Journal of Non-Newtonian Fluid Mechanics (JNNFM).

Bu’r Athro Ken Walters yn Olygydd Gweithredol y cylchgrawn am 25 mlynedd, o’i lansiad yn 1976 tan cyhoeddi Cyfrol 100 yn 2002.

Mae’n dal yn Olygydd Sefydlol ac yn aelod o’r Bwrdd Golygyddol.

Dyfernir Gwobr flynyddol Walters i awdur(on) y papur ymchwil gorau a gyhoeddir yn y cylchgrawn yn ystod y flwyddyn galendr, ac mae’n cynnig gwobr o €2,500.

Dyfarnwyd y Wobr Walters gyntaf i dri gwyddonydd o Brifysgol Califfornia, Davis, sef Jennifer Staton, yr Athro Stephanie Dungan, a’r Athro Ronald Phillips.

Cyhoeddwyd eu herthygl Topological transitions in unconfined vibrated concentrated suspensions yn rhifyn Mawrth 2016 (Cyfrol 229, Tud. 79-85).

Cyflwynwyd y wobr gan yr Athro Ken Walters yng Nghynhadledd Flynyddol Ewrop ar Reoleg, a gynhaliwyd yn Copenhagen, Denmarc, yn Ebrill 2017.

Dywedodd yr Athro Qiang Shen, Cyfarwyddwr yr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg: Mae cyfraniad yr Athro Walters, nid yn unig yn ei ddisgyblaeth academaidd eu hunain, ond hefyd mewn llawer o ardaloedd eraill, wedi bod yn aruthrol, ac yn parhau felly. Am dros hanner canrif mae wedi bod yn ffigwr sylweddol ym maes gwyddoniaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac yn ei wybodaeth a'i deallusrwydd wedi cyfoethogi’r addysgu a’r ymchwil yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y mae i gyhoeddwyr blaenllaw o gyfnodolion academaidd greu gwobr sydd yn arddel ei enw yn brawf o’i waith arloesol ym maes Rheoleg.”

Astudiodd yr Athro Ken Walters ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg Gymhwysol yn 1956.

Dyfarnwyd gradd MSc iddo yn 1957 am ymchwil i Drylediad Atmosfferig a gradd PhD yn 1959 am ymchwil i Reoleg.

Ar ôl treulio blwyddyn yn ymchwilio a darlithio yn UDA, dychwelodd yr Athro Walters i Aberystwyth.

Cafodd ei ddyrchafu yn Uwch Ddarlithydd yn 1965, yn Ddarllenydd yn 1970 ac fe’i gwnaed yn Athro yn 1973.

Ar hyn o bryd mae’n Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r Athro Walters wedi gwneud nifer o gyfraniadau sylweddol i faes rheoleg a datblygu gwyddoniaeth reolegol yn y DU, ac mae wedi cynnal astudiaethau helaeth ar ymddygiad hylifau an-Newtonaidd, yn enwedig hylifau elastig.

Mae’n gyfrifol am ddatblygiadau pwysig mewn dau faes o bwys: mesur priodoleddau rheolegol, a datrys llifoedd cymhleth yn rhifyddol, ac mae ei lyfr, Rheometry, yn gyfeirlyfr safonol yn y maes.

Mae’r Athro Walters yn un o brif arloeswyr cymhwyso dulliau rhifyddol i reoleg hylifau ac mae’r llyfr Numerical Simulation of Non-Newtonian Flow, a ysgrifennodd ar y cyd, yn destun dylanwadol mewn maes ymchwil sy’n datblygu’n gyflym.

Dyfarnwyd gradd DSc Prifysgol Cymru iddo yn 1985, ac fe’i etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1991.

Yn 2009, daeth yn un o Gymrodyr Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn 2010, derbyniodd wahoddiad i fod yn aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru.