Mathemateg yn cipio Adran y Flwyddyn

01 Mai 2018

Yr Adran Fathemateg yw Adran y Flwyddyn Gwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2018.

Cafodd llwyddiant Mathemateg ei gyoeddi yn seremoni ddiweddaraf y gwobrau blynyddol sydd yn dathlu cyfraniadau eithriadol staff, myfyrwyr, cynrychiolwyr academaidd ac adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhaliwyd y seremoni, sydd yn cael ei threfnu gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth y Brifysgol, yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Iau 26 Ebrill 2018.

Bellach yn eu seithfed flwyddyn, denodd gwobrau eleni 238 o enwebiadau mewn 16 categori, gyda'r holl wobrau wedi'u henwebu, eu pennu a'u cyflwyno gan fyfyrwyr.

Am wybodaeth bellach, gweler https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2018/04/title-212683-cy.html