Gwobrau am gyflawniad eithriadol myfyrwyr mewn Mathemateg

30 Medi 2022

Mae’r adran yn dyfarnu gwobrau yn flynyddol i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau Mathemateg dros y flwyddyn flaenorol, diolch i roddion a chymynroddion gan gyn aelodau o staff a myfyrwyr.

Roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i rai o’n myfyrwyr wnaeth raddio yn gynharach eleni. Yr wythnos yma, roedd yn dro i rai o’r myfyrwyr sydd wedi dychwelyd atom i ddathlu eu llwyddiannau.

Mae Gwobr T.V. Davies ar gyfer Mathemateg Gymhwysol, er cof am yr Athro T.V. Davies, Pennaeth Mathemateg Gymhwysol 1958-1967 yn cael ei dyfarnu am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Gymhwysol; yr enillwyr eleni yw Kaitlin Ashton ac Ethan Pattison, sydd ill dau’n ymgymryd â’r flwyddyn MMath, a Trys Hooper, Aneirin Griffith a John Aaltio, sy’n dechrau blwyddyn 3.

Mae Gwobr V.C. Morton ar gyfer Mathemateg, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg, yn cael ei dyfarnu er cof am yr Athro Vernon Morton, Pennaeth Mathemateg Bur, 1923-1961. Dyfarnwyd y gwobrau yma eleni i George Lee (blwyddyn 3) a Lucas Esslemont-Hill (blwyddyn M).

Dyfarnir Gwobr C.D. Easthope ar gyfer Mathemateg, er cof am Dr Colin Easthope, Uwch-ddarlithydd mewn Mathemateg Gymhwysol 1936-1975, am berfformiad rhagorol gan unrhyw fyfyriwr israddedig Mathemateg. Eleni mae’r gwobrau Easthope yn mynd i Emma Gibson (blwyddyn M), Nathan Robertshaw, Hannah Cooper a Cadi Maple (blwyddyn 3), ac i Kiara Kearney, Shubh Joshi, Ellie Hyam, Rachel Seaborne, Tal Griffith, Wei Yuan Ng a Thomas Ferneyhough (blwyddyn 2).