Gweithdy 2023 ar Fathemateg a Mecaneg Solidau a Strwythurau

18 Mai 2023

Fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant y Brifysgol, bydd yr adran yn croesawu ymchwilwyr i Weithdy 2023 ar y Mathemateg a’r Mecaneg o Solidau a Strwythurau rhwng 7-9fed o Fehefin.

Bydd y gweithdy yn denu ymchwilwyr at ei gilydd o’r meysydd ymchwil o fodelu mathemateg a mecaneg ac efelychiadau rhifiadol o ffenomenau aml-raddfa, deunyddiau cyfansawdd a’u strwythurau a meta ddeunyddiau. Bydd yn ystyried y cynnydd diweddar mewn dadansoddiad mathemategol  a’r technegau rhifiadol modern a sut mae’r rhain yn berthnasol i broblemau ffisegol, peirianneg a chymdeithasol eang.

Cefnogir y gweithdy gan Brifysgol Aberystwyth a’r rhaglenni Fframwaith UE HORIZON2020, ERC AdG “Beyond hyperelasticity”, MSCA RISE “Effective Factorisation techniques for matrix-functions” a MSCA ITN EID “Re-Fracture2”. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau tuag at yr Athro Gennady Mishuris.