Adnoddau Adrannol

Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r cyfleusterau a’r adnoddau sydd ar gael o fewn yr Adran. Mae yma gymysgedd o adnoddau addysgu ac ymchwil.

 

Adnoddau Addysgu

Llyfrgell

Mae’r llyfrgell Fathemateg wedi’i lleoli ar bedwerydd llawr Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, sy’n ei gwneud yn hawdd i fyfyrwyr chwilio drwy’r testunau ac i ddarganfod lle tawel i weithio rhwng darlithoedd.

Darlithfeydd

Mae gennym ystod o ddarlithfeydd o fewn yr adeilad, sy’n golygu fod gan fyfyrwyr Mathemateg a Ffiseg yr holl gyfleusterau ac adnoddau angenrheidiol ar gyfer eu hastudiaethau i gyd o dan yr un to.

Ystafelloedd Cyfrfifiadura

Mae'r Labordy ar ail lawr Adeilad y Gwyddorau Ffisegol yn cynnwys mwy na chwe deg o gyfrifiaduron yn ystod oriau gwaith. Yn ychwanegol, mae'r rhwydwaith di-wifr yn caniatau i fyfyrwyr gysylltu â rhwydwaith rhyngrwyd y Brifysgol a gweithio unrhyw le maent yn dymuno.

Cyntedd

Mae’r cyntedd ar ei newydd wedd yn cynnig gofod ymlacio i fyfyrwyr rhwng darlithoedd. Mae yma beiriannau gwerthu diodydd a barrau byrbryd.

 

Adnoddau Ymchwil


Labordy Amgylchedd Synthetig


Mae’r Labordy Amgylchedd Synthetig yn gartref i’r offer rhithrealiti sy’n cael eu defnyddio gan ymchwilwyr i ddelweddu eu data mewn tri dimensiwn.

 

Cyfleusterau Uwch-Gyfrifiadura


Mae uwch-gyfrifiadur pedwar craidd 128 nod, wedi’i leoli yn yr adran. Mae’n galluogi i ymchwilwyr redeg yr efelychiadau mwyaf diweddar mewn meysydd sy'n cynnwys rhyngweithiadau atomig, ffenomenau astroffiseg, ac ewynnau.