Ffynonellau o Gefnogaeth i Fyfyrwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnig arwyddbost i fyfyrwyr (a staff) i'r ffynonellau cefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr Mathemateg, o Brifysgol Aberystwyth ac o sefydliadau allanol.

Ffynonellau Cefnogaeth Adrannol

Y Swyddfa Gyffredin (SG) yw pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw wybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr (2il lawr, Adeilad y Gwyddorau Ffisegol)

Pennaeth Adran

Gweinyddwr yr Athrofa - Croeso i chi alw mewn i drafod materion mwy cyfrinachol

Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu - Cysylltwch am unrhyw faterion academaidd a bugeiliol

Tiwtoriaid Personol - Os nad ydych yn gwybod pwy ddylech ofyn am gymorth ar unrhyw fater, gofynnwch i'ch Tiwtor Personol. Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich Tiwtor Personol, gwiriwch eich Cofnod Myfyriwr arlein, neu gofynnwch yn y Swyddfa Gyffredin

Tiwtoriaid Blwyddyn Israddedig - Cysylltwch am faterion academaidd a bugeiliol

Blwyddyn 0 - Dr Alex Pitchford; Blwyddyn 1 - Dr Adam Vellender; Blwyddyn 2 - Dr Adil Mughal; Blwyddyn 3 - Dr Rob Douglas; Blwyddyn 4/M - Dr Tudur Davies

Efallai bydd myfyrwyr ar raddau cyfun a Phrif Bwnc/Isbwnc yn dymuno ceisio cyngor ar ddewisiadau Dr Rob Douglas.

Cydlynydd Uwchraddedig- Cysylltwch am gyngor a chefnogaeth uwchraddedig

Swyddog Gyrfaoedd Adrannol - Cysylltwch am gyngor gyrfaoedd a chyflogaeth

Swyddog Erasmus Adrannol - Cysylltwch am gyngor ar eich blwyddyn dramor ac am gyfleoedd rhyngwladol

Swyddog Iechyd a Diolgelwch- Cysylltwch ynglyn ag unrhyw faterion iechyd a diogelwch

Pwyllgor Ymgynghorol Myfyrwyr a Staff- Cysylltwch â'ch Cynrhychiolydd Blwyddyn i drafod ynrhyw fater adrannol

MathSoc - Cymdeithas fyfyrwyr i rai sydd â diddordeb mewn Mathemateg. Cysylltwch â'r Ysgrifennydd MathSoc Megan Atkinson neu ewch i'w Tudalen Facebook

 

Ffynonellau Cefnogaeth Canolog

Gwasanaethau Cefnogaeth Myfyrwyr

  • Cyngor Lles Cyffredinol
  • Iechyd a Lles
  • Cyngor Academaidd (apeliadau, cynrychiolaeth ar gyfer cyhuddiadau o lên-ladrad, newid cwrs)
  • Tynnu Allan
  • Cefnogaeth Anabledd
  • Asesiad Dyslecsia a Chefnogaeth
  • Cyngor am Gyllid Cyffredinol
  • Cyllid Caledi
  • Rheoli Arian
  • Iechyd Rhyw a Gwybodaeth am Gynllunio Teulu
  • Rheoli Alcohol a Chyffuriau
  • Cyngor Lles (llety, anghydfod â landlord, materion treth cyngor)
  • Cefnogaeth mewn achosion o fwlio/aflonyddu
  • Darpariaeth ffydd

Swyddfa Llety

  • Preswylfeydd wedi'u harlwyo neu rhai hunan-arlwyo
  • System Diwtor/Warden Bywyd Preswyl ar gyfer Preswylfeydd (cefnogaeth bugeiliol, datrys gwrthdaro)
  • Myfyrwyr ag anableddau – llety wedi'i addasu
  • Myfyrwyr â dibynyddion – llety teulu
  • Llety preifat – cynnig arweiniad i fyfyrwyr wrth ddelio â landlordiaid preifat, ymrwymiadau cytundebol, ayyb

Nightline yw'r linell gymorth sy'n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr. Mae'n cynnig gwasanaeth galw i mewn 8pm - 8am yn ystod y tymor am 7 diwrnod yr wythnos. Er mwyn cysylltu â nightline, fe welwch y rhif ar gefn eich cerdyn myfyriwr, neu ewch i www.nightline.aber.ac.uk er mwyn cysylltu trwy yrru neges neu ebost iddynt.

Canolfan Chwaraeon

  • Rhaglenni lles
  • Hyfforddwyr personol
  • Clinig Anafiadau Chwaraeon
  • Cyngor Iechyd ac Ymarfer

Canolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiad Cymdeithasol

  • Arwyddbost - cynllun mentora ar gyfer myfyrwyr newydd
  • Partneriaethau Ehangu Cyfranogiad: cynlluniau megis Prifysgol Haf Cymru, Ehangu Gorwelion

Ffynonellau Cefnogaeth Canolog

Gwasanaethau Gwybodaeth

  • Desgiau Cymorth ac Ymholiadau
  • Taflenni Cwestiynau Cyffredin i fyfyrwyr
  • Cefnogaeth astudio ac ymchwil effeithiol
  • Cyrsiau sgiliau TG
  • Anabledd, cefnogaeth hygyrchedd – lleoliadau Cerdyn Gwyrdd
  • Canllawiau defnyddwyr arlein ac wedi'u printio

Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol (Adnoddau)

Canolfan Saesneg Rhyngwladol

  • Datblygiad sgiliau dysgu ar gyfer myfyrwyr mewn Addysgu Uwch
  • Datblygiad sgiliau ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr mewn Addysgu Uwch
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon ac athrawon dan hyfforddiant
  • Cynllun Cymrodoriaeth Ysgrifennu y Gronfa Lenyddol Frenhinol

Gwasanaeth Gyrfaoedd

  • Cynghorwyr Gyrfaoedd
  • BMG - Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith
  • Swyddi ar gael
  • Lleoliadau Go Wales
  • Hyfforddiant ymarferol mewn ysgrifennu CV a chynnigion am swydd, dulliau cyfweliad, profion seicometreg, ayyb

Ffynonellau Cefnogaeth Allanol

Os oes unrhyw ffynonellau cefnogaeth rydych chi'n teimlo ddylai gael ei gynnwys yn y rhestr uchod, cysylltwch â Gweinyddwyr yr Athrofa â'ch argymhellion.