Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 Hours. |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Hours. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% |
Asesiad Semester | Traethodau: Aseiniad: 2,000 o eiriau | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
I. Arweiniad i Ddadansoddi Athronyddol.
Wedi astudio'r adran hon:
1. Byddwch yn medru egluro beth a wneir wrth ddadansoddi cysyniadau a byddwch yn medru dadansoddi rhai cysyniadau ym maes addysg.
2. Byddwch yn medru dangos ar lafar ac yn ysgrifenedig bod dadansoddi cysyniadau yn anhepgor i gyfiawnhau syniadau a pholisiau ym maes addysg.
3. Byddwch yn medru dadansoddi problemau ym maes addysg i'w gwahanol elfennau boed athronyddol, cymdeithasegol, seicolegol, moesol neu hanesyddol.
4. Byddwch yn medru defnyddio'r un technegau o ddadansoddi ar broblemau mewn meysydd heblaw addysg.
II Y Cysyniad o Addysg
Wedi astudio'r adran hon:
1. Byddwch yn medru cynnig diffiniad o'r cysyniad o addysg a byddwch yn medru egluro rhai o'r problemau a gyfyd wrth geisio diffinio addysg.
2. Byddwch yn medru egluro a rhoi enghreifftiau o'r modd y mae athronwyr yn beirniadu unrhyw ddiffiniad a gynigir.
3. Byddwch yn medru rhoi enghreifftiau o amcanion a chyrchnodau ac yn medru egluro y berthynas rhyngddynt. Byddwch hefyd yn medru egluro sut i'w cyfiawnhau.
4. Byddwch yn medru dadansoddi'r cysyniad o angen i'w wahanol elfennau ac egluro pa elfennau sy'n berthnasol i addysg.
5. Byddwch yn medru dangos y gwahaniaeth rhwng anghenion a diddordebau ac yn medru egluro sut i ddefnyddio diddordebau disgyblion i ddibenion addysgol.
III. Datblygiad
Wedi astudio'r adran hon:
1. Byddwch yn medru egluro beth yw datblygiad y meddwl a'i gyferbynu a datblygiad corfforol.
2. Byddwch yn medru dangos yn glir fod datblygiad gwybyddol (h.y. datblygiad y deall) yn hollol hanfodol i ddatblygiad teimladol, cymdeithasol a moesol yr unigolyn. Byddwch hefyd yn medru dangos y dylai'r dadansoddiad hwn fod yn rhan hanfodol o faes llafur Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion.
3. Byddwch yn medru trin a thrafod y cysyniad o berson dynol ynghyd a'r syniad o ardderchogrwydd dynol (human excellences).
4. Byddwch yn medru egluro'r berthynas rhwng y syniad o ddatblygu fel person a'r cysyniad o iechyd meddwl.
5. Byddwch yn medru defnyddio'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gawsoch yn yr adran hon i ddeall y modd y mae'r pynciau a astudir gennych yn y coleg yn cyfrannu i'ch datblygiad personol. Byddwch hefyd yn medru eu defnyddio i ymgodymu a bywyd beunyddiol myfyriwr/myfyrwraig.
IV. Y Cwricwlwm
Wedi astudio'r adran hon:
1. Byddwch yn medru egluro'r dadleuon dros gredu mai gwybodaeth a dealltwriaeth yw cyrchnodau sylfaenol y cwricwlwm.
2. Byddwch yn medru rhoi disgrifiad o safbwynt Paul Hirst ynglyn a Ffurfiau Cyhoeddus Gwrthrychol Gwybodaeth
a Phrofiad ynghyd a rhai gwendidau yn ei safbwynt.
3. Byddwch yn medru trin a thrafod rhai o egwyddorion trefnu cwricwlwm.
V. Sefydliadau Addysgol
Wedi astudio'r adran hon:
1. Byddwch yn medru diffinio sefydliadau ac egluro'r berthynas rhwng sefydliadau a'u hamcanion.
2. Byddwch yn medru trin a thrafod gwahanol ystyron y gair awdurdod ac yn medru egluro y cyfiawnhad a roir dros y gwahanol fathau.
3. Byddwch yn medru dadansoddi y cysyniadau canlynol - disgyblaeth feddyliol; pwnc fel disgyblaeth; ymddisgyblu meddyliol; ymddisgyblu moesol.
4. Byddwch yn medru gwahaniaethu rhwng disgyblaeth a chosb ac egluro'r dadleuon a ddefnyddir i gyfiawnhau cosb.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4