Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 Hours. |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Hours. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad diwedd y semestr | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eiriau | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
I. Cymhelliant Dynol
Ar ol astudio'r adran hon:
1. Byddwch yn medru egluro damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn ag anghenion dynion a'i defnyddio i'ch diben eich hun fel myfyrwyr ynghyd a^ gweld ei gwerth i athrawon ysgol a choleg.
2. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theory Atgyfnerthu ac yn medru egluro sut y dylid ei defnyddio i wneud hyfforddiant mewn ysgol a choleg yn fwy effeithiol.
3. Byddwch yn medru egluro'r theori ynglyn a'r Angen i Gyflawni (need to Achieve) ac yn medru defnyddio agweddau ohoni i fod yn fwy effeithiol fel myfyrwyr.
4. Byddwch yn medru deall a defnyddio Theori Priodoli a'i defnyddio i egluro eich ymateb i lwyddiant
neu fethiant mewn rhyw orchwyl arbennig ac i feithrin dyfalbarhad ac agwedd gadarnhaol tuag at anawsterau.
II Dysgu a Chofio:
Wedi astudio'r adran hon
1. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theori Prosesu - Gwybodaeth o'r cof a'i defnyddio i fod yn fwy
effeithiol fel myfyrwyr.
2. Byddwch yn medru egluro gwahanol ddamcaniaethau ynglyn ag anghofio, disgrifio arbrofion ar anghofio ynghyd a'i canlyniadau a defnyddio'r wybodaeth i'ch budd eich hunain fel myfyrwyr.
3. Byddwch yn medru crynhoi canlyniadau arbrofion ar gaffael gwybodaeth a'i storio yn yr hir-gof a byddwch yn medru llunio cynghorion ar sail eich gwybodaeth i wneud myfyrwyr yn fwy effeithiol yn eu gwaith.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4