Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 Hours. |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Hours. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad diwedd y semestr | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eiriau | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn deall ystrwythur ieithyddol ar lefel disgrifiadol
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn deall egwyddorion a dulliau ieithyddiaeth ddisgrifiadol
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn gallu defnyddio'r dealltwriaeth uchod i drafod materion iaith, yn enwedig ym meysydd Addysg
Iaith yw un o rinweddau amlycaf bodau dynol, a phwrpas y modiwl hwn yw gwerthfawrogi ei nodweddion sylfaenol. Trwy ddefnyddio Ieithyddiaeth fodern, disgrifir ystrwythur iaith ac esbonir y dulliau sylfaenol o ddadansoddi ystrwythur. Yn sgil y cyflwyniad, bydd cyfle i drafod ymagweddiadau tuag at iaith gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar gywirdeb. Mae'r modiwl hwn yn cyd-fynd a diddordebau mewn cymdeithaseg iaith a Ieithyddiaeth gyfrifiadurol. Hefyd, mae'n gosod y sylfaeni ar gyfer dilyn modiwlau ar iaith sydd yn fwy arbenigol a manwl ar lefel 2 a 3.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4