Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr 1 arholiad ysgrifenedig dwy awr, dau gwestiwn | 60% |
Asesiad Semester | 1 ymarfer llyfryddiaethol, 1000 o eiriau | 15% |
Asesiad Semester | 1 traethawd, 2000 o eiriau | 25% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod yn gwybod am ac yn deall datblygiadau hanesyddol system addysg yng Nghymru a Lloegr.
Dangos eu bod yn gallu gwerthuso'n feirniadol polisiau addysg a materion cyfoes addysg.
Dangos eu bod yn gallu creu dadl gydlynol wrth drafod materion cyfoes yn y byd addysg.
Dangos eu bod yn gallu trafod eu profiadau addysg eu hunain yng nhgyd-destun newidiadau a datblygiadau yn y system addysg
Dangos eu bod yn gallu defnyddion ffynonellau perthnasol.
Cyflwynir polisiau a materion cyfoes mewn addysg yng Nghymru a Lloegr. Lleolir polisiau addysg mewn cyd-destun hanesyddol sy'n olrhain datblygiadau a newidiadau, ond hefyd trafodir materion o bwys sy'n bod heddiw.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4