Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlith/briff 1 x 2 awr yr wythnos yn Semester 1 |
Eraill | 4 x 2 awr IT workshop - Semester 1 |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | PORTFFOLIO DATBLYGU SGILIAU | 50% |
Asesiad Semester | CYFLWYNIADAU YSGRIFENEDIG A LLAFAR | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos gallu i gyfathrebu ar lafar ac ar bapur, ac i weithio mewn grwpiau
2. Dangos sgiliau astudio effeithiol, gan gynnwys defnyddio'r llyfrgell
3. Disgrifio'r cydberthynas rhwng y cynnwys o fewn eu cynllun gradd
4. Dangos gallu i ddefnyddio TG i reoli testun, datrys problemau'n ymwneud a rhifau, a chasglu a chyflwyno data.
5. Adnabod anghenion datblygu gyrfa a gosod targedau personol ac academaidd.
Mae'r modiwl hwn ar gael ond i'r myfyrwyr hynny sy'n ymgymryd a chynllun gradd anrhydedd yn y Sefydliad y Gwyddorau Gwledig. Fe'i cynlluniwyd i ddarparu cymorth academaidd a bugeiliol agos i fyfyrwyr yn ystod eu blwyddyn gyntaf, a fframwaith ar gyfer datblygu sgiliau astudio, sgiliau bywyd ac ymwybyddiaeth o yrfaoedd. Yn ogystal, bydd yn cynorthwyo myfyrwyr i integreiddio cynnwys eu cynllun gradd.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trafod a chyflwyno ar lafar: bydd hwn yn nodwedd o'r dosbarthiadau tiwtorial gr?p |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ymwybyddiaeth o anghenion Gyrfaoedd: Bydd y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn cyflwyno Rhaglen Datblygu Gyrfa, a rhaid cynhyrchu CV fel rhan o'r Portffolio Datblygu Sgiliau. Hunanreolaeth: trwy ddysgu i gyflwyno aseiniadau erbyn y dyddiad cau |
Gwaith Tim | Gweithgaredd gr?p: trafod mewn dosbarthiadau tiwtorial gr?p. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwaith prosiect annibynnol; wrth gyflawni eu haseiniadau, mae'n ofynnol bod myfyrwyr yn gweithio'n annibynnol; yn ogystal, cynhelir sesiwn briffio ar ddefnyddio cyfleusterau llyfrgell. |
Technoleg Gwybodaeth | TG a thrin gwybodaeth: disgwylir i fyfyrwyr ddangos gallu sylfaenol yn y sgiliau hyn, mewn asesiad cymhwyster ar ddechrau'r modiwl, bydd rhaid i'r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol fynychu dosbarthiadau arbennig. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4