Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | This is a short work experience module, there is no teaching associated with it. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | ADRODDIAD LLEOLIAD GWAITH DIWYDIANNOL, 3,000 O EIRIAU | 30% |
Asesiad Semester | ASESIAD CYFLOGWR/TIWTOR ADRODDIAD | 45% |
Asesiad Semester | CYFLWYNIAD AR OL LLEOLIAD CYFLWYNIAD, 15 MUNUD | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno adroddiad y lleoliad diwydiannol a/neu ail y cyflwyniad. Ni chewch gyfle i ail wneud y lleoliad gwaith os byddwch wedi methu asesiad y Cyflogwr. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Trefnu a sicrhau lleoliad gwaith dilys
(a) Llunio amcanion personol ar gyfer y lleoliad
(b) Dangos blaengarwch wrth ddethol a sicrhau gwaith perthnasol
(c) Ymateb i ofynion paratoi ar gyfer cyfweliad a gofynion mynychu cyfweliadau.
(ch) Trin a thrafod, a chytuno a'r arolygwr a'r cyflogwr yngl'n a chynllun gweithredu.
2. Dangos gallu i gyflawni rol waith
(a) Dal ati ar y lleoliad am y cyfnod gofynnol
(b) Cwblhau rhaglen o dasgau yn unol a'r safonau y cytunwyd arnynt.
(c) Gweithio mewn modd cyfrifol ar eich pen eich hun a chydag eraill.
3. Dadansoddi gweithgareddau a pherfformiad y sefydliad
(a) Cadw golwg ar y sefydliad, ei strwythur a'r defnydd o adnoddau sydd ar gael, a'u gwerthuso
(b) Asesu ei effeithiolrwydd o ran llwyddo yn ei amcanion mewn perthynas a safonau cydnabyddedig.
4. Asesu gwerth a pherthnasedd y profiad gwaith a gafwyd
(a) Gwerthuso'r profiad a gafwyd yn erbyn y cynllun gweithredu
(b) Asesu cyfraniad y profiad hwn at ddatblygu gyrfa
(c) Adnabod datblygiad sgiliau personol
(ch) Dadansoddi'r cyfraniad at ddatblygu gyrfa
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5