Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | SEMINAR 1 | 40% |
Asesiad Semester | SEMINAR 2 | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr ailsefyll yr elfen(nau) or asesiad a achosodd iddynt fethur modiwl | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ymchwilio a chrynhoi pynciau penodol sydd o ddiddordeb iddynt;
Cyflwyno eu crynodebau ar ffurf seminar;
Cyflwyno crynodeb ysgrifenedig o'u hadolygiad o'r pwnc;
Gofyn ac ateb cwestiynau ar ol y seminar.
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio a chyflwyno dwy seminar. Bydd Seminar 1 ar bwnc penodol tra bydd yr ail seminar ar bwnc o ddewis y myfyriwr.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd angen i fyfyrwyr baratoi a thraddodi dau gyflwyniad seminar, gyda phapur crynodeb byr a llyfryddiaeth lawn i'w hategu. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu hasesu a darperir adborth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn cael adborth ar eu seminar gyntaf a disgwylir iddynt fyfyrio ar yr adborth hwn a chymryd camau priodol i wella eu perfformiad lle bo angen. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil i baratoi ar gyfer eu dau gyflwyniad seminar unigol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio PowerPoint ac amrywiaeth o gyfryngau gweledol wrth gyflwyno'r seminarau. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6