Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x Arddangosfa Grwp 20 munud | 50% |
Asesiad Semester | 1 x Traethawd Perfformiadol Unigol 15 munud | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o'r asesiad rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os methir y modiwl oherwydd methu'r elfen o waith mewn grwp, rhaid ail-sefyll y modiwl. | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:
1. deall a chymhwyso'r systemau perfformiadol a astudir yn y modiwl
2. defnyddio'r dulliau gweithredu a'r ymarferion a astudir ar y modiwl er mwyn dyfeisio 'sgript' perfformiadol a chyflwyniad enghreifftiol
3. arddangos dealltwriaeth o natur perfformiad personol a pherfformiad grwp, yn enwedig o safbwynt gwaith a safle'r corff
4. ystyried, fesul grwp, y broses o ddyfeisio perfformiadau a chyflwyno cysyniadau perfformiadol
5. ail-ystyried yr ymarfer hwn ar sail unigol, gan ddatblygu ymwybyddiaeth bellach o broses gorfforol a meddyliol yr unigolyn yn ystod perfformiad
Bwriedir diwygio'r modiwl presennol DD24020 Dyfeisio a Pherfformio er mwyn adlewyrchu rhai o'r newidiadau yn narpariaeth yr Adran a ddaw yn sgil ychwanegu modiwlau newydd a chreu cynllun Anrhydedd Gyfun mewn Astudiaethau Perfformio. Fel ag o'r blaen, fe fydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddulliau gweithredu ac ymarferion perfformiadol o'r theatr gorfforol Ewropeaidd ac Americanaidd fel y datblygodd honno yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. I'r perwyl hwnnw, fe fydd yn gosod pwyslais ar waith 'di-destun', dyfeisiedig (hynny yw, gwaith theatr sy'n deillio o sgiliau perfformiadol cynhenid a chydberthynas aelodau grwp o artistiaid yn hytrach na gofynion testun dramataidd parod), ac yn annog y myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o ansawdd a natur y gwaith hwnnw trwy ddulliau corfforol.
Bwriad y modiwl hwn fydd cynnig sylfaen ymarferol i feithrin dealltwriaeth o ymarferion a dulliau gweithredu'r theatr ddi-destun. Gwneir hyn trwy gyflwyno syniadau a fframweithiau ymarferol a ddefnyddir er mwyn symbylu ymholiadau ac arbrofion, yn enwedig y rheini sy'n deillio o ymarferion damcaniaethwyr a gweithredwyr blaenllaw fel Bogart, Barba a Grotowski. Dechreubwynt y gwaith, fodd bynnag, fydd techneg 'Ym Mhob Iaith' y cwmni Cymraeg Brith Gof.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae'n amlwg y bydd ymdrech i gyfathrebu trwy gyfrwng dulliau gweithredu ac ymarferion dyfeisio/cyflwyno yn datblygu medrau cyfathrebu'r myfyrwyr, a hynny ar lafar ac yn gorfforol yn y sesiynau dysgu ac yn ystod yr asesiadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y medrau datblygiad personol a chynllunio gyrfa: yn uniongyrchol yn y modiwl eithr fe fe ddatblyga'r modiwl hwn ymwybyddiaeth o ddulliau gweithredu a pherfformio sydd yn seiliedig ar sgiliau cyflwyno deunydd perfformiadol fel unigolyn a grwp |
Datrys Problemau | Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'r gwahanol ddiffiniadau o berfformiad fel digwyddiad esthetig a amlygir gan y technegau corfforol a'r termau theoretig a gyflwynir yn ystod y modiwl. Adlewyrchir llwyddiant y myfyrwyr wrth ddatrys problemau yn eu gwaith asesiedig ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl. |
Gwaith Tim | Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwreiddio gwaith tîm y myfyrwyr yn yr asesiad cyntaf. Fe sylwir o'r rhestr darlithoedd fod trafodaeth o waith ensemble a gwaith tîm yn rhan eang o gynnwys y modiwl hwn |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r ffaith fod yr asesiadau'n datblygu'r dechneg gorfforol, weledol a lleisiol o un asesiad i'r llall yn arwydd clir o'r modd y datblygir y medrau hyn yn y modiwl. Disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu deunydd, ond nid asesir y medrau hyn yn benodol yn ystod y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd cyflawni ymchwil a darllen cefndirol unigol yn agwedd bwysig ar y modiwl hwn, wrth i'r myfyrwyr geisio deall a gwerthfawrogi cyd-destun nifer o enghreifftiau o berfformio a ddangosir iddynt |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'u hail asesiad, ond nid oes lle yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5